Mae cwest i farwolaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi dod i’r casgliad ei fod e’n anymwybodol o ganlyniad i wenwyn carbon monocsid ond ei fod e wedi marw o ganlyniad i anafiadau i’w ben a’i frest pan blymiodd ei awyren i’r ddaear yn ystod hediad oedd heb ei drwyddedu.

Roedd nam ar systemau’r awyren wedi achosi’r gwenwyn, yn ôl y cwest yn Bournemouth.

Doedd gan y peilot David Ibbotson ddim trwydded i hedfan yr awyren yn y nos, ac fe blymiodd i’r môr gan ladd y ddau ohonyn nhw.

Roedd yr awyren yn cludo’r Archentwr 28 oed o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd ar Ionawr 21, 2019 pan blymiodd i’r Sianel oddi ar Ynys y Garn (Guernsey).

Dydy corff David Ibbotson, 59, ddim wedi’i ganfod hyd heddiw.

Adeg ei farwolaeth, roedd Sala yn symud o Nantes i Gaerdydd fel rhan o drosglwyddiad gwerth £15m, a’r cyfan yn cael ei drefnu gan yr asiant Willie McKay.

Tystiolaeth

Dywedodd patholegydd yn ystod y cwest fod Emiliano Sala wedi’i orchfygu gan wenwyn carbon monocsid, a bod hynny wedi achosi iddo fynd yn anymwybodol ar yr awyren.

Roedd e’n dal yn fyw pan blymiodd yr awyren i’r môr, meddai, ac y bu farw o ganlyniad i’w anafiadau wedyn.

Dywedodd arbenigwr ar beirianneg ei bod hi’n fwyaf tebygol mai nam ar systemau’r awyren oedd yn gyfrifol am y carbon monocsid yn gollwng.

Roedd y peilot a’r dyn busnes David Henderson, 67, yn rheoli’r awyren ar ran y perchennog ac wedi bod yn trefnu hediadau, y peilot a gwaith cynnal a chadw er nad oedd e wedi cofrestru i wneud hynny.

Roedd Willie McKay yn helpu ei fab, Mark, oedd yn cynrychioli Clwb Pêl-droed Nantes yn y trosglwyddiad er ei fod yntau wedi’i wahardd ei hun rhag bod yn asiant am ei fod e’n fethdal.

Ond fe drefnodd e’r hediadau ar ran Emiliano Sala wrth iddo deithio’n ôl ac ymlaen er mwyn cwblhau’r trosglwyddiad, ac mae’n cyhuddo Caerdydd o esgeuluso’r chwaraewr.

Mae’n gwadu ei fod e’n gwybod nad oedd gan David Henderson yr hawl i drefnu hediadau masnachol, ac nad oedd e’n cadw cofnodion manwl ar gyfer ei fusnes na chymwysterau staff oedd yn hedfan awyrennau ar ei ran.

David Ibbotson

Mae’n debyg bod David Ibbotson wedi adrodd am glec fawr ar y daith o Gaerdydd i Nantes, ond doedd dim gofyn i beirianwyr edrych ar y broblem pan laniodd yr awyren yn Nantes.

Roedd y peilot wedi’i wahardd rhag hedfan yr awyren gan y perchennog yn dilyn dau ddigwyddiad fisoedd ynghynt, ond fe wnaeth David Henderson roi’r hawl iddo hedfan yr awyren ar gyfer y teithiau hyn.

Roedd gan y peilot drwydded breifat.

Y llynedd, cafodd David Henderson ei garcharu am 18 mis am beryglu diogelwch awyren drwy gyflogi’r peilot pan nad oedd ganddo’r trwyddedau priodol.

Fe gyfaddefodd e ei fod e wedi ceisio trefnu hediad i deithiwr heb ganiatâd nac awdurdod.