Mae hyfforddwraig bêl-droed ysbrydoledig wedi cael y cyfle i gyfarfod ei harwres fel rhan o ddathliadau Penwythnosau Pêl-droed y Loteri Genedlaethol.

Fel rhan o’r ymgyrch honno rhwng mis Mawrth ac Ebrill, mae dros 100,000 o docynnau ar gyfer gemau pêl-droed penodol ar gael am ddim i bobol sydd wedi prynu tocyn y Loteri.

Yng Nghymru, fe fydd cefnogwyr yn gallu prynu tocynnau i gemau Uwch Gynghrair Cymru a chynghreiriau Cymru North a South am ddim.

Y bwriad yw cael pobol i fynd allan a chefnogi eu timau lleol, sy’n chwarae “rôl hanfodol” yn eu cymunedau, meddai’r Loteri Genedlaethol.

Fe wnaeth Cronfa’r Loteri ddarparu £12.5m o gyllid brys y llynedd i helpu clybiau oedd wedi eu heffeithio gan y pandemig ac i’w helpu nhw i barhau i weithredu.

‘Mwy na dim ond clwb pêl-droed’

I hyrwyddo’r ymgyrch Penwythnosau Pêl-droed, fe wnaeth cyn-gapten tîm merched Lloegr, Karen Carney, ymweld â Pharc Jenner, cartref Clwb Pêl-droed Tref y Barri Unedig.

Yno, fe wnaeth hi gyfarfod â Chloe McBratney, sy’n hyfforddi tîm Pan Anabledd y clwb, sydd wedi’i chofrestru’n ddall ac sy’n byw gyda chyflyrau iechyd niferus.

“Roedd mor bwysig ein bod ni wedi cael cyllid gan y Loteri Genedlaethol yn ystod Covid-19 gan ein bod ni’n gymaint mwy na dim ond clwb pêl-droed,” meddai Chloe McBratney.

“Drwy gefnogi’r timau ar y penwythnos, rydych chi’n helpu plant ac oedolion ifanc i chwarae’r gêm maen nhw mor hoff ohoni.”

‘Dihangfa’

“Unwaith y dechreuodd y pandemig lacio, dod i chwarae pêl-droed oedd yr unig ddihangfa yn aml; lle gallai pawb anghofio am bopeth oedd yn digwydd am awr neu ddwy,” meddai wedyn.

“Yn ystod y cyfnodau clo, roedd gan rai chwaraewyr gyflyrau corfforol oedd wedi gwaethygu ond maen nhw’n adennill ffitrwydd eto nawr, gan eu bod nhw’n gallu dod yn ôl i chwarae.

“Mae’r clwb fel teulu – rydyn ni i gyd yn cadw llygad ar ein gilydd ac yn cefnogi ein gilydd ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.”

Ychwanega ei bod hi’n fraint cael cwrdd â Karen Carney, a oedd yn arwres iddi yn iau.

“Rydw i’n cofio gwylio pêl-droed merched yn y cyfnod hwnnw ac Arsenal oedd y tîm i’w guro,” meddai.

“Doedd dim stop arnyn nhw. Karen oedd fy model rôl i wrth i mi dyfu i fyny felly roedd cwrdd â hi heddiw yn wych ac yn brofiad na fydda’ i byth yn ei anghofio.”

‘Curiad calon ein gêm genedlaethol’

Roedd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad ar Barc Jenner.

“Mae gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rôl hanfodol mewn cefnogi ein gêm genedlaethol ni, yn enwedig ar lefel ddomestig ac ar lawr gwlad,” meddai.

“Pêl-droed lleol yw curiad calon ein gêm genedlaethol a’n cymunedau ni ac mae angen dathlu’r cysylltiad yma rhwng clybiau a’u cymunedau lleol.

“Ni fyddai llawer o’n chwaraewyr ni sydd ar dop eu gêm erbyn hyn lle maen nhw heddiw heb y clybiau yma.

“Rydw i’n annog pawb i fynd allan a chefnogi eu tîm lleol a does dim gwell amser i wneud hynny na nawr.”