Bydd tîm pêl-droed Cymru’n cynnal gêm ar Fawrth 29 i godi arian at Apêl Ddyngarol Wcráin Pwyllgor Argyfyngau’r DEC.

Bydd eu gwrthwynebwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ddibynnol ar ganlyniadau gemau ail gyfle Cwpan y Byd.

Pe bai Cymru’n curo Awstria yn eu gêm gyn-derfynol ar Fawrth 24, fe fyddan nhw’n herio’r tîm sy’n colli’r gêm gyn-derfynol arall rhwng Sweden a’r Weriniaeth Tsiec.

Ond pe bai tîm Rob Page yn colli, byddan nhw’n herio’r Alban yn y gêm elusennol.

Pan fydd tocynnau’n mynd ar werth o 10 o’r gloch fore dydd Gwener (Mawrth 18), bydd modd i gefnogwyr ddewis rhoddi swm ychwanegol ar ben pris tocynnau i’r apêl.

Bydd y tîm cenedlaethol hefyd yn rhoddi swm o arian i’r apêl, a bydd casgliad bwced yn y stadiwm ar y noson.

Bydd unrhyw elw hefyd yn cael ei roddi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae lle i gredu bod 18m o bobol wedi’u heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin, a bod pedair miliwn yn rhagor am golli eu cartrefi, eu swyddi a’u heiddo ac yn gorfod gadael eu hanwyliaid ar ôl.

Bydd unrhyw roddion yn gallu helpu i ddarparu dŵr, bwyd, lloches, gofal iechyd a gwarchodaeth i bobol sydd wedi cael eu heffeithio.