Mae cynghorwyr wedi dechrau galw am amgueddfa rygbi genedlaethol, yn debyg i’r galwadau am amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam.

Yn ystod trafodaeth ynghylch adfywio trefi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, dywedodd y Cynghorydd Jamie Evans ei fod e am weld Castell-nedd yn dathlu ei hunaniaeth (ddadleuol) fel “cartref rygbi Cymru”.

Dechreuodd y drafodaeth ar ôl i’r Cynghorydd Nigel Hunt ddweud y byddai’n hoffi gweld mwy yn cael ei wneud i ddenu pobol i ganol trefi yn y bwrdeistref sirol.

“Alla i ddim wir meddwl am lawer o ganolfannau diwylliannol sy’n agor,” meddai wrth siarad yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Adfywio a Datblygiad Cynaladwy.

“Rwy’n gwybod fod gennym ni Theatr y Dywysoges Frenhinol, ond mae hi ar agor ar gyfer yr economi nos.

“Rydyn ni wir yn brin o orielau ac amgueddfeydd yn ein trefi, ac rwy’n credu y dylem geisio canolbwyntio ar hynny neu o leiaf ei ystyried.”

Fe wnaeth y Cynghorydd Jamie Evans grybwyll y galwadau i ehangu canol trefi yn y bwrdeistref sirol a thra ei fod yn cydnabod yr hwb a allai ddod yn sgil y ganolfan hamdden newydd arfaethedig yng Nghastell-nedd, dywedodd y byddai’n hoffi gweld dychwelyd at y cynlluniau blaenorol ar gyfer amgueddfa.

“Tra fy mod yn gefnogol i’r ganolfan hamdden newydd, roedd yna gynlluniau ar gyfer amgueddfa rygbi siâp pêl,” meddai.

“Mae Castell-nedd yn cystadlu â Llanbed i fod yn gartref rygbi Cymru. Rwy’n derbyn nad ydyn ni ar ein gorau ar hyn o bryd. Ond gobeithio ein bod ni ar i fyny eto.

“Rwy’n credu bod mwy y gellid ei wneud o amgylch [hyrwyddo’r diwylliant] yng Nghastell-nedd, Port Talbot a Phontardawe.

“Hoffwn weld, a byddai’n cynnwys Clwb Rygbi Castell-nedd hefyd, rywbeth fel yr hyn rydyn ni’n ei weld yn Wrecsam nawr, lle mae gennym ni awgrym ar gyfer amgueddfa bêl-droed genedlaethol.

“Rwy’n gwybod efallai y bydd gennym ni gystadleuaeth o du Llanbed, sy’n honni bod y tîm cyntaf yng Nghymru i chwarae rygbi, ond rwy’n credu’n bersonol ei fod yn rywbeth y mae angen i ni fod yn falch ohono yng Nghastell-nedd.”

Llanbed neu Gastell-nedd?

Mae honiadau Llanbed mai yn y fan honno y ganed rygbi yng Nghymru’n seiliedig ar y ffaith mai dyna le’r oedd y gêm rygbi gyntaf ar gofnod yng Nghymru – gêm rhwng Prifysgol Llanbed a Choleg Llanymddyfri yn 1866.

Ond mae Clwb Rygbi Castell-nedd yn cael ei gydnabod fel y clwb rygbi cyntaf yng Nghymru, a hwnnw wedi’i sefydlu yn 1871.

“Rydym wedi bod yn ceisio estyn allan yng nghanol ein trefi ers tro, hyd yn oed cyn y pandemig pan wnaethon ni roi’r cynlluniau ar waith i gyflwyno’r cyfleusterau hamdden yng nghanol tref Castell-nedd,” meddai Simon Brennan, Pennaeth Eiddo ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, wrth ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Nigel Hunt.

“Drwyddi draw, rydyn ni wedi bod yn edrych ar sut y gallwn ni wneud hynny.

“Bydd datblygiad y Plaza yn rhan fawr ohoni i Bort Talbot hefyd.

“Nid manwerthu yn unig fydd rheswm pobol dros fynd i ganol trefi wrth symud ymlaen, ac rwy’n credu bod pawb yn derbyn hynny, ac mae’n fater o wneud canol trefi’n ddiddorol mewn ffordd wahanol.”

‘Nodi’r galwadau’

Dywedodd Simon Brennan y byddai galwadau’r Cynghorydd Jamie Evans am amgueddfa rygbi genedlaethol yng Nghastell-nedd yn cael eu nodi.

“Mae’r Cyngor wrthi’n datblygu eu strategaeth ar gyfer diwylliant a threftadaeth,” meddai.

“Bydd rhai o’r eitemau y soniodd y Cynghorydd Evans amdanyn nhw’n cael eu codi yn hwnnw.

“Bydd yn cynnwys dealltwriaeth o’r dreftadaeth chwaraeon yn ogystal â’r dreftadaeth ddiwylliannol.”

Bydd y strategaeth yn cael ei defnyddio i ddenu nawdd ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi hanes Castell-nedd Port Talbot.

‘Pam na allwn ni gael amgueddfa?’

“Dw i wedi bod yn sôn am hyn ers 10 i 12 o flynyddoedd, i gael amgueddfa yng Nghastell-nedd pe bai modd,” meddai’r Cynghorydd Sheila Penry wrth wfftio galwadau’r Cynghorydd Evans a’r Cynghorydd Hunt ar i’r Cyngor feddwl mwy am sut y gall hyrwyddo hanes y bwrdeistref sirol.

“Mae pobol ac ysgolion Castell-nedd yn gofyn pam na allwn ni gael amgueddfa, oherwydd byddai’n addysg wych i’r plant.”

Yn ôl y Cynghorydd Hunt, byddai amgueddfa rygbi yng Nghastell-nedd “yn wych”.

“Fel aelod o Aberafan ac fel rhywun fyddai, ar Ddydd San Steffan, yn gwisgo coch a du, rhaid i fi ddweud bod y syniad o amgueddfa rygbi yng Nghastell-nedd yn wych,” meddai.

“Mae ganddi draddodiad rygbi gwych, mae’n cael ei hadnabod fel tref rygbi, mae ganddi hanes gwych a byddai’n denu pobol a thwristiaeth.

“Nid yn unig y byddai o fudd i Gastell-nedd, ond byddai o fudd hefyd i’r sir gyfan.”