Fydd y golwr Danny Ward ddim ar gael i herio Awstria yng ngemau ail gyfle rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd oherwydd anaf i’w ben-glin.

Fe yw dewis cyntaf Cymru fel arfer, yn enwedig ar ôl chwarae yn yr Ewros y llynedd, gan ddisodli Wayne Hennessey.

Mae Brendan Rodgers, rheolwr ei glwb Leicester City, yn dweud y bydd e allan am rai wythnosau, ond ei fod yn gobeithio dychwelyd tu diwedd y tymor.

Mae disgwyl, felly, i Hennessey ennill cap rhif 99 ei yrfa ar Fawrth 24, ac mae e ar ei ffordd i fod y trydydd golwr yn hanes Cymru i ennill 100 o gapiau.

Fydd yr ymosodwyr Kieffer Moore (troed) na Tyler Roberts (llinyn y gâr) ddim ar gael oherwydd anafiadau, ac mae’r amddiffynnwr canol James Lawrence allan hefyd ag anaf i’w goes.

Mae’r asgellwr Rabbi Matondo yn dychwelyd i’r garfan ar ôl creu argraff gyda’i glwb, Cercle Brugge, lle mae e ar fenthyg o Schalke yn yr Almaen, a dyma’r tro cyntaf iddo gael ei enwi yn y garfan ers cael ei ddisgyblu am dorri protocol Cymru flwyddyn yn ôl.

Mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ill dau, ar gael er gwaethaf pryderon yn ddiweddar am eu ffitrwydd a’u diffyg amser ar y cae i’w clybiau.

Mae Joe Morrell, y chwaraewr canol cae, hefyd wedi’i gynnwys er ei fod e wedi’i wahardd ar gyfer y gêm yn erbyn Awstria.

Bydd Cymru’n herio’r Alban neu Wcráin pe baen nhw’n curo Awstria, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Qatar.

Carfan

W Hennessey (Burnley), A Davies (Stoke), T King (Salford), C Gunter (Charlton), B Davies (Tottenham), C Roberts (Burnley), C Mepham (Bournemouth), J Rodon (Spurs), B Cabango (Abertawe), N Williams (Fulham, ar fenthyg o Lerpwl), R Norrington-Davies (Sheff Utd), E Ampadu (Venezia, ar fenthyg o Chelsea), J Allen (Stoke), J Morrell (Portsmouth), W Vaulks (Caerdydd), D Levitt (Dundee Utd, ar fenthyg o Man U), A Ramsey (Rangers, ar fenthyg o Juventus), J Williams (Swindon), H Wilson (Fulham), S Thomas (Huddersfield), R Colwill (Caerdydd), B Johnson (Nottingham Forest), D James (Leeds), G Bale (Real Madrid), M Harris (Caerdydd), R Matondo (Cercle Brugge, ar fenthyg o Schalke 04).