Daeth cadarnhad fod y Cymro Gerwyn Price yn ddigon ffit i chwarae yng nghymal nesa’r Uwch Gynghrair Dartiau nos yfory (nos Iau, Mawrth 17).

Mae’r gynghrair yn symud i Arena Motorpoint Nottingham, lle bydd y Cymro o sir Caerffili yn dychwelyd ar ôl cael anaf i’w fraich yn ddiweddar, oedd yn golygu nad oedd modd iddo fe gystadlu yn Brighton.

Yr Iseldirwr Michael van Gerwen fydd ei wrthwynebydd yn rownd yr wyth olaf ar y noson.

Bydd Peter Wright hefyd yn cystadlu ar ôl gwella o anaf i’w gefn, a bydd e’n chwarae yn erbyn Joe Cullen ar ôl disodli Gerwyn Price ar frig rhestr ddetholion y byd.

Bydd Jonny Clayton yn herio’r Albanwr Gary Anderson, tra bydd Michael Smith a James Wade o Loegr yn herio’i gilydd.

“Edrych ymlaen at chwarae nos Iau yma yn Uwch Gynghrair Nottingham,” meddai Gerwyn Price mewn stori ar Instagram.

“Dw i ddim yn 100% [yn holliach] ond fe wna i roi 100% iddi.”