Fe fydd Alun Wyn Jones yn cyrraedd carreg filltir arall dros y penwythnos, wrth iddo ennill ei 150fed cap dros Gymru yn erbyn Yr Eidal.

Roedd hi eisoes yn hysbys y byddai Jones, sy’n 36 oed, yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu pedair gêm gyntaf y Chwe Gwlad oherwydd anaf i’w ysgwydd yn erbyn Seland Newydd yn ystod Cyfres yr Hydref.

Mae eisoes â’r record byd am y nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol, a bydd yn ymestyn ar hwnnw wrth iddo gael ei enwi yn bartner i Adam Beard yn yr ail reng brynhawn dydd Sadwrn (19 Mawrth).

Yn ogystal, fe fydd Dan Biggar yn ennill ei ganfed cap i Gymru – dim ond y seithfed chwaraewr i gyflawni’r gamp honno i dîm Cymru.

Cafodd y maswr ei enwi’n gapten ar gyfer yr ymgyrch hon, sydd wedi gweld Cymru’n colli tair gêm ac ennill un yn erbyn Yr Alban.

Saith newid

Ar gyfer y gêm olaf yn erbyn Yr Eidalwyr, mae Wayne Pivac wedi gwneud saith newid ers y golled agos o 13-9 i Ffrainc y penwythnos diwethaf.

Bydd Johnny McNicholl yn dechrau fel cefnwr, gan gymryd lle Liam Williams, tra bydd Louis Rees-Zammit yn holliach unwaith eto i chwarae yn safle’r asgellwr.

Yn safle’r canolwr, fe fydd Uilisi Halaholo yn chwarae ei gêm gyntaf eleni, tra bod Gareth Davies yn ôl yn safle’r mewnwr yn lle Tomos Williams.

Does dim lle i Jonathan Davies nac Alex Cuthbert ar y fainc, ond fe fydd Will Rowlands yn dirprwyo ar gyfer y cloeon.

Mae Pivac hefyd wedi ffafrio’r bachwr Dewi Lake a’r prop Dillon Lewis dros Ryan Elias a Tomas Francis.

‘Addas i’r ddau rannu’r diwrnod â’i gilydd’

Fe wnaeth prif hyfforddwr Cymru ganmol ei gapten arferol, Alun Wyn Jones, a’i gapten presennol, Dan Biggar, wrth iddyn nhw gyrraedd y cerrig milltir arbennig.

“Mae Dan ac Al yn chwaraewyr enfawr i Gymru ac wedi bod ers blynyddoedd bellach,” meddai Wayne Pivac.

“Rydyn ni wedi dweud gyda chwaraewyr eraill sy’n cyrraedd 100 ymddangosiad faint o gyflawniad yw e, ac rwy’n gwybod bod Dan wedi bod yn edrych ymlaen at y foment hon ers amser maith.

“Iddo gyflawni hyn gydag Al, sydd hefyd yn cyrraedd y garreg filltir o 150 o gapiau – rhywbeth nad yw’r un chwaraewr arall erioed wedi’i wneud – rwy’n meddwl ei fod yn addas i’r ddau rannu’r diwrnod â’i gilydd.

“Maen nhw wedi chwarae llawer o rygbi gyda’i gilydd ac mae ganddyn nhw barch cadarn at ei gilydd.

“Maen nhw wedi rhoi cymaint ar gyfer y gêm yng Nghymru.”

Bydd rhaid i Gymru gael buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn yr Azzurri os ydyn nhw am orffen yn drydydd yn y gystadleuaeth, ond fe fydd rhaid i’r Alban a Lloegr ollwng pwyntiau ar yr un pryd.

Y gêm yn Stadiwm y Mileniwm fydd y cyntaf o holl gemau dydd Sadwrn, gyda’r gic gyntaf am 14:15.

Y 15 sy’n cychwyn

Cymru: 15. McNicholl; 14. Rees-Zammit, 13. Watkin, 12. Halaholo, 11. Adams; 10. Biggar (capten), 9. G. Davies; 1. Thomas, 2. Lake, 3. Lewis, 4. Beard, 5. A.W. Jones, 6. S. Davies, 8. Faletau, 7. Navidi.

Y Fainc: 16. Roberts, 17. W. Jones, 18. L. Brown, 19. Rowlands, 20. Moriarty, 21. Hardy, 22. Sheedy, 23. Tompkins.