Mae strategaeth wedi cael ei lansio er mwyn sicrhau bod criced yn gêm i bawb yng Nghymru.

Nod y strategaeth yw “trawsnewid criced yng Nghymru yn le lle mae pawb yn teimlo’u bod nhw’n cael eu parchu, yn perthyn ac yn cael eu trin yn deg”.

Fe fu’r gwaith o baratoi’r strategaeth ar y gweill ers yr hydref, wrth i’r awdurdodau yng Nghymru ymrwymo i sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant ar bob lefel.

Dros y chwe mis diwethaf, mae Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg wedi bod yn cydweithio er mwyn cyflwyno gweithdai i drafod sut mae gwireddu nodau ac amcanion y strategaeth.

Yn ystod y gweithdai, fe fu’r awdurdodau’n ystyried sut i weithredu cynllun 12 pwynt Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) ar Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae is-bwyllgor hefyd wedi cael ei sefydlu yng Nghlwb Criced Morgannwg i fynd i’r afael â materion sy’n rhan o’u hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Rhan o’r ymrwymiad hwnnw yw sicrhau cefnogaeth ac addysg i’r gweithlu cyflogedig a gwirfoddolwyr, creu timau amrywiol gan sicrhau’r llwybrau tecaf i bawb o fewn y gêm yng Nghymru, a sicrhau bod pawb yn teimlo’n gartrefol mewn caeau criced ar hyd a lled y wlad.

‘Cydio yn nychymyg Cymru’

“Mae hon yn hanfodol i ni ddatgloi’r doniau gorau, denu cynulleidfaoedd newydd a thrawsnewid ein gêm er mwyn cydio yn nychymyg Cymru,” meddai Rezwan Hassan, cadeirydd is-bwyllgor ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant Clwb Criced Morgannwg.

“Dim ond gyda’n gilydd y gallwn ni fod yn gryfach, a dw i’n edrych ymlaen at arwain y newid y mae mawr ei angen ar ein gêm hyfryd yng Nghymru.”

Yn ôl Sue Phelps, cadeirydd yr is-bwyllgor cyfatebol gyda chorff Criced Cymru, gall chwaraeon “gysylltu, grymuso ac ysbrydoli”.

“Ond os yw criced yng Nghymru am wireddu ei weledigaeth, mae’n rhaid estyn allan a chynnwys y mwyafrif, nid y lleiafrif,” meddai.

Dywed fod y pwyllgor “wedi ymroi i sefyll yn erbyn gwahaniaethu, gwrando ar y rhai sy’n teimlo’u bod nhw wedi’u cau allan neu eu gwthio i’r cyrion, ac archwilio’r ffyrdd mwyaf effeithiol o droi addysg yn gamau mesuradwy go iawn”.

‘Datblygiad hanfodol’

“Mae lansio’r strategaeth hon yn nodi datblygiad hanfodol yn ymrwymiadau Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg ar y cyd i sicrhau ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob ffordd, ar bob lefel o’n gêm a’n sefydliadau,” meddai Mark Frost, Rheolwr Cymuned a Datblygu’r ddau sefydliad.

“Ein nod ar y cyd yn ein holl waith fel timau gweithredol fydd sicrhau, gyda’n gilydd, ein bod ni’n gwneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth i’n cyfranogwyr, ein cefnogwyr a’n cymunedau ledled Cymru.”