Mae Cameron Congreve yn dweud ei fod e’n falch o gael chwarae yn ei gêm gyntaf i Glwb Pêl-droed Abertawe, er iddyn nhw golli o 1-0 yn Blackpool dros y penwythnos.

Daeth y Cymro 18 oed o Flaenau Gwent, sy’n chwarae yng nghanol cae, oddi ar y fainc ddyddiau’n unig ar ôl iddo lofnodi ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r Elyrch.

Fe greodd e argraff gyda’i gyffyrddiadau, gan ddod yn agos at dorri’r amddiffyn ar ymyl y cwrt cosbi, cyn troi yn ei hanner ei hun i gychwyn ymosodiad arall yn hwyr yn y gêm.

Ymunodd Congreve â’r clwb gan ddechrau chwarae i’r tîm dan naw oed, ac fe fu’n cefnogi’r clwb ar hyd ei oes.

‘Annisgwyl’

“Dw i’n falch iawn o gael y cyfle,” meddai Cameron Congreve.

“Yn amlwg, roeddwn i eisiau i ni ennill ond mae’n wefr o fod wedi cael fy ngêm gyntaf.

“Roedd hi ychydig yn annisgwyl, ro’n i’n cynhesu ac fe gymerodd ychydig eiliadau i fi sylweddoli fod y gaffar yn galw fy enw.

“Doedd dim llawer o amser i fod yn nerfus, ac roeddwn i’n teimlo’n iawn pan es i allan yno.

“Goleuodd fy llygaid ychydig bach pan welais i’r gôl ond doedd hi ddim am fod.

“Fe fu’n wythnos fawr i fi, dw i’n mwynhau pethau gymaint yma ag erioed.

“Dw i’n dod o Flaenau Gwent ond dw i wedi bod yn gefnogwr Abertawe er pan oeddwn i’n ifanc, a dw i bob amser wedi bod wrth fy modd gyda’r ffordd mae Abertawe’n chwarae, ac mae cael y cyfle i fod yn rhan o hynny’n arbennig iawn.”

‘Un gêm ar y tro’

Am y tro, mae traed Cameron Congreve ar y ddaear o hyd.

“Mae hyn yn golygu cymaint i fi a fy nheulu, ond un gêm yw hi, a dw i eisiau sicrhau nad hon yw fy unig gêm,” meddai.

“Er mwyn sicrhau hynny, rhaid i fi barhau i weithio’n galed, mae gen i dipyn i’w ddysgu.

“Mae Russell Martin wedi bod yn wych.

“Mae e o’r radd flaenaf i gael gweithio gyda fe, mae e wedi bod yn wych gyda fi a’r holl fechgyn ifainc.

“Mae’r sesiynau mae’n eu trefnu’n wych, ac mae’r awyrgylch yn arbennig o fewn y garfan a’r staff yn Fairwood.

“Dw i wrth fy modd gyda fe, a gobeithio y galla i barhau i fod yn rhan ohono fe.”

Cefnogaeth y teulu

Ymhlith y dorf o 2,000 o gefnogwyr Abertawe oedd wedi teithio i Blackpool roedd ei rieni, ei gariad ac aelodau ei theulu hi.

“Roedd hi’n wych eu cael nhw i gyd yma,” meddai.

“Yr unig beth oedd, wnes i fynd i geisio dod o hyd iddyn nhw ar y chwiban olaf, ond doeddwn i ddim yn gallu eu gweld nhw.

“Maen nhw wedi bod yn rhan mor fawr wrth i fi gyrraedd y pwynt yma, alla i ddim diolch digon iddyn nhw.

“Pan dw i’n meddwl am yr holl ddyddiau a nosweithiau’n fy ngyrru i i’r ymarferion a gemau ac yn ôl, roedd hi’n daith o ryw awr a deng munud bob ffordd drwy’r amser.

“Dw i’n gwybod eu bod nhw wedi aberthu tipyn i fi, a bydda i bob amser yn ddiolchgar am hynny.”