Daeth cadarnhad yr wythnos hon y bydd gêm gynderfynol Cymru am le yng Nghwpan y Byd yn erbyn Awstria yn mynd yn ei blaen ddiwedd y mis. A gyda’r garfan yn cael ei henwi ddydd Mercher, gemau’r penwythnos hwn i’w clybiau a oedd y cyfle olaf y Cymry i roi eu henwau yn yr het.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd buddugoliaeth fawr i Brentford yn erbyn Burnley mewn brwydr tua gwaelodion y tabl ddydd Sadwrn. Dwy gôl i ddim a oedd y sgôr, gyda Connor Roberts yn chwarae’r gêm gyfan i Burnley a Wayne Hennessey ar y fainc. Nid oedd Fin Steven yng ngharfan Brentford.

Colli fu hanes Spurs mewn gêm gyffrous yn Old Trafford nos Sadwrn wrth iddi orffen yn dair gôl i ddwy o blaid Man U. Dechreuodd Ben Davies fel un o’r tri yn y cefn yn ôl ei arfer ac roedd Joe Rodon ar y fainc, hefyd yn ôl yr arfer.

Heriodd Leeds un o’u gelynion gwaelod tabl, Norwich, ar Elland Road ddydd Sul. Nid oedd Tyler Roberts yn y garfan ac ni fydd yng ngharfan Cymru ’chwaith wedi iddo ddioddef anaf drwg yn erbyn Caerlŷr yr wythnos diwethaf. Mae disgwyl iddo fod allan am weddill y tymor. Chwaraeodd Dan James y gêm gyfan gan greu’r gôl agoriadol i Rodrigo yn y fuddugoliaeth o ddwy gôl i un.

Taith Caerlŷr i wynebu Arsenal a oedd y gêm hwyr ddydd Sul ond nid oedd Danny Ward yng ngharfan y Llwynogod.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Roedd hi’n bell o fod yn glasur wrth i Gaerdydd chwarae gêm ddi sgôr yn erbyn Preston yn Stadiwm y Ddinas ddydd Sadwrn. Dechreuodd Isaak Davies y gêm i’r Adar Gleision ac ymddangosodd Rubin Colwill oddi ar y fainc. Aros arni a wnaeth Mark Harris a Will Vaulks. Ar y fainc yr oedd Ched Evans i’r ymwelwyr ond chwaraeodd Andrew Hughes y gêm gyfan yn erbyn clwb ei ddinas enedigol.

Mae Davies wedi bod yn chwarae mwy na Colwill a Harris yn ddiweddar, a gydag absenoldebau Kieffer Moore a Tyler Roberts mewn safleoedd ymosodol, bydd ymosodwr ifanc Caerdydd yn gobeithio cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ddydd Mercher.

Cafodd Abertawe wythnos wael yn colli’n drwm yn erbyn Fulham ganol wythnos cyn colli o gôl i ddim yn erbyn Blackpool ddydd Sadwrn. Sgoriodd Ben Cabango i’w rwyd ei hun yn erbyn Fulham ac roedd yn nhîm yr Elyrch eto ar gyfer y golled yn Bloomfield Road. Roedd ymddangosiad byr fel eilydd i Cameron Congreve hefyd, y bachgen deunaw oed o Flaenau Gwent yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r tîm cyntaf.

Un o sêr Fulham yn y gêm ganol wythnos honno a oedd Neco Williams, yn sgorio dwy gôl hwyr gan gynnwys un wych o du allan i’r cwrt cosbi. Roedd y cefnwr sydd ar fenthyg o Lerpwl yn y tîm eto ar gyfer y gêm yn Barnsley ddydd Sadwrn ond Cymro arall a oedd yr arwr ar yr achlysur hwn; Harry Wilson yn crymanu ergyd i’r gornel uchaf i gipio pwynt hwyr i’r tîm ar y brig.

Bydd Williams a Wilson yn rhai o’r enwau cyntaf yn y garfan ddydd Mercher ond un fydd yn gobeithio dychwelyd iddi am y tro cyntaf ers tro fydd Tom Lawrence. Chwaraeodd i’w glwb, Derby, ddydd Sadwrn ond colli o ddwy gôl i ddim a fu eu hanes yn erbyn Bournemouth. Nid oedd Chris Mepham yng ngharfan y Cherries.

Enw sydd yn sicr o’i le yng ngharfan Cymru fydd Brennan Johnson er nad oed ymysg goliau Nottingham Forest yn Reading. Chwaraeodd yr ymosodwr y gêm gyfan wrth i’w dîm ennill o bedair i ddim.

Dechreuodd James Chester a Joe Allen gêm gyfartal ddwy gôl yr un Stoke yn Peterborough, gydag Allen yn creu’r gôl agoriadol i Jacob Brown. Nid oedd Adam Davies na Morgan Fox yng ngharfan Stoke ond roedd Dave Cornell rhwng y pyst i’r gwrthwynebwyr.

A fydd dychweliad annisgwyl i’r garfan genedlaethol i Neil Taylor tybed? Mae’r cefnwr chwith profiadol wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i Middlesbrough ac roedd yn y tîm unwaith eto wrth iddynt gael gêm ddi sgôr ym Millwall. Mae Tom Bradshaw yn parhau i fod yn absennol i Millwall oherwydd anaf.

Chwaraeodd Rhys Norrington-Davies y gêm gyfan wrth i Sheffield United golli’n drwm yn Coventry.

Roedd Sorba Thomas yn nhîm Huddersfield a gafodd gêm gyfartal yn erbyn West Brom nos Wener ac roedd yn anffodus braidd i ildio’r gic o’r smotyn hynod hallt a roddodd ffordd yn ôl i mewn i’r gêm i’r Baggies.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Jordan James wrth i Birmingham gael gêm ddi sgôr yn erbyn Hull.

Gyda Mepham a James Lawrence ddim yn chwarae i’w clybiau ar hyn o bryd, un fydd yn llygadu lle yn ôl yn y garfan fydd amddiffynnwr Luton, Tom Lockyer. Chwaraeodd i’w glwb unwaith eto ddydd Sul ond colli a fu eu hanes o ddwy gôl i un yn erbyn QPR. Nid oedd George Thomas yng ngharfan y gwrthwynebwyr.

 

*

 

Cynghreiriau is

Bydd hi’n ddiddorol gweld os fydd Joe Morrell yn cael ei enwi yn y garfan ddydd Mercher gan gofio ei fod wedi ei wahardd o’r gêm gyntaf, yr unig un gystadleuol o’r ddwy. Gellid rhoi hoe iddo o bosib a rhoi cyfle i Jordan James o Firmingham neu hyd yn oed Louis Thompson, sydd yn aml yn dechrau o flaen Morrell i Porstmouth.

Dyna a ddigwyddodd ddydd Sadwrn wrth i Pompey gael gêm ddi sgôr yn erbyn Ipswich yn yr Adran Gyntaf, Thompson yn chwarae’r 70 munud cyntaf cyn cael ei eilyddio am Morrell i orffen y gêm. Chwaraeodd Wes Burns y gêm gyfan i Ipswich, un arall a fyddai’n llawn haeddu ei le pe byddai Page yn chwilio am chwaraewr sydd yn gallu chwarae amrywiol safleoedd i lawr y dde. Nid oedd Lee Evans yng ngharfan Bois y Tractor.

Joe Morrell

Mae Chris Gunter wedi cael rhediad o gemau ar yr amser iawn i Charlton, chwaraeodd fel un o dri yn y cefn mewn colled o ddwy gôl i un yn erbyn Accrington ddydd Sadwrn. Ar y fainc yr oedd Adam Matthews.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Matthew Smith i’r MK Dons hefyd wrth iddynt hwy gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Wigan. Chwaraeodd Gwion Edwards y chwe munud olaf i’r gwrthwynebwyr.

Dechreuodd Joe Jacobson a Sam Vokes gêm gyfartal ddi sgôr Wycombe yn erbyn Rotherham. Roedd Owen Evans a Ben Williams yn rhan o dîm Cheltenham a gafodd fuddugoliaeth o dair i un yn Morecambe.

Dechreuodd James Wilson a Ryan Broom i Plymouth a daeth Luke Jephcott oddi ar y fainc wrth iddynt guro Bolton o gôl i ddim. Roedd Declan John a Jordan Williams yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Colli o ddwy i ddim a fu hanes Dave Richards, Zac Williams a Tom Lowery gyda Crewe yn Sunderland. Nid oedd Nathan Broadhead yng ngharfan y Cathod Du er iddo ddychwelyd o’i anaf hir dymor yr wythnos diwethaf. Mae’r blaenwr sydd ar fenthyg o Everton wedi dioddef mân anaf arall ond nid oes disgwyl iddo fod allan am gyfnod hir y tro hwn.

Roedd Regan Poole yn rhan o amddiffyn Lincoln a gadwodd lechen lân mewn buddugoliaeth o ddwy i ddim yn Wimbledon. Ar y fainc yr oedd Liam Cullen.

Deth Billy Bodin oddi ar y fainc i Rydychen wrth iddynt drechu’r Amwythig o ddwy gôl i un.

Aaron Collins a sgoriodd ddwy o goliau Bristol Rovers yn eu buddugoliaeth o dair gôl i ddim dros Harrogate yn yr Ail Adran. Roedd Luca Hoole yn y tîm hefyd.

Roedd buddugoliaeth i Swindon hefyd, i’w cadw hwy yn y safleoedd ail gyfle. Un gôl i ddim oedd hi yn erbyn Oldham gyda’r gôl yn dod wedi i Jonny Williams ddod i’r cae gel eilydd hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Roedd llechen lân i Tom King wrth i Salford gael gêm ddi sgôr yn erbyn Exeter, gêm y chwaraeodd Liam Shephard ynddi hefyd.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Penwythnos wyth olaf y Cwpan a oedd hi yn yr Alban yr wythnos hon. Roedd buddugoliaeth dda i Hearts nos Sadwrn, yn curo St Mirren o bedair gôl i ddwy. Dechreuodd Ben Woodburn y gêm gan chwarae rhan yn yr ail gôl i Peter Haring.

Daeth Christian Doidge i’r cae fel eilydd am y chwarter awr olaf wrth i Hibs drechu Motherwell o ddwy gôl i un ddydd Sul.

Roedd buddugoliaeth dda arall yn Ewrop i Rangers ganol wythnos wrth iddynt drechu Red Star Belgrade ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Aaron Ramsey. Roedd lle yn y tîm cychwynnol i’r Cymro ddydd Sul serch hynny wrth i Rangers deithio i herio Dundee.

Aaron Ramsey

Nid yw Dundee United Dylan Levitt yn chwarae tan nos Lun, yn erbyn Celtic.

Yng Ngwlad Belg ddydd Sadwrn, roedd buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim i Cercle Brugge yn erbyn Kortrijk. Chwaraeodd Rabbi Matondo y gêm gyfan ac er na sgoriodd ef y tro hwn, bydd yn gobeithio y bydd ei goliau lu dros y misoedd diwethaf yn ddigon iddo adennill ei le yng ngharfan Cymru.

Yn yr Almaen, nid oedd James Lawrence yng ngharfan St. Pauli ar gyfer eu gêm gyfartal gyda Dynamo.

Nid yw Venezia Ethan Ampadu na Real Madrid Gareth Bale yn chwarae tan nos Lun yn Serie A a La Liga. Bydd Bale yn awyddus i gael munudau yn ei goesau ag yntau wedi bod yn eilydd heb ei ddefnyddio unwaith eto wrth i Real guro PSG yng Nghynghrair y Pencampwyr ganol wythnos.