Mae Sefydliad Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi sesiynau Premier League Kicks trwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o gynllun ar y cyd â Menter Iaith Abertawe ac Ysgol Gyfun Gŵyr.
Rhaglen genedlaethol yw hi sy’n defnyddio grym pêl-droed a chwaraeon i ymgysylltu’n rheolaidd â phlant a phobol ifanc o bob cefndir a gallu trwy bêl-droed, chwaraeon a datblygiad personol.
Fel rhan o’r prosiect, bydd sesiynau wythnosol rhad ac am ddim yn cael eu cynnal er mwyn rhoi’r cyfle i blant a phobol ifanc 8-16 oed yn ne-orllewin Cymru gael chwarae pêl-droed, a bydd pobol ifanc 16-18 oed yn cael y cyfle i hyfforddi neu fod yn swyddogion gwirfoddol.
Nod y sesiynau Cymraeg fydd annog pobol ifanc i gyfathrebu yn y Gymraeg drwy bêl-droed, a fydd y sesiynau ddim ond ar gael i Ysgol Gyfun Gŵyr yn y lle cyntaf, gan ddechrau ar Fawrth 28.
‘Defnydd a mwynhad’
“Rydym yn gyffrous iawn i allu lansio’r cynllun newydd hwn mewn partneriaeth â’r Swans Foundation ac Ysgol Gyfun Gŵyr,” meddai Tomos Jones o Fenter Iaith Abertawe.
“Ein gwaith yw hyrwyddo’r defnydd a’r mwynhad o’r Gymraeg yn ardal Abertawe, ac mae’n wych gweld fod y clwb pêl-droed mor gefnogol o’r iaith.
“I’r disgyblion chweched dosbarth sydd wedi gwirfoddoli ar gyfer y cynllun hwn, bydd cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg mewn cyd-destun chwaraeon wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau hyfforddi a mentora’r disgyblion iau.
“Mae eu galluogi i ymgysylltu â’r iaith fel hyn yn bwysig iawn, ac mae’r posibilrwydd o waith iaith Gymraeg sy’n talu yn y dyfodol wrth i’r cynllun ddatblygu yn rhywbeth sy’n hanfodol o bwysig i bobol ifanc yn ardal Abertawe.
“Bydd hefyd yn rhoi cyfle i’r disgyblion iau gymdeithasu ar y cae pêl-droed drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau arni.”
‘Ymrwymo i gydraddoldeb a chynhwysiant’
“Fel sefydliad rydym yn falch o fod yn lansio ein sesiwn PL Kicks gyntaf yn yr iaith Gymraeg mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe ac Ysgol Gyfun Gŵyr,” meddai Graham Smith, arweinydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y Swans Foundation.
“Fel sefydliad rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb a chynhwysiant, ac rydym wedi ymrwymo i ehangu nifer y gweithgareddau rydym yn eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae gan ein prosiect PL Kicks hanes hir o gefnogi pobol ifanc i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi a darparu cyfleoedd gwirfoddoli gwerthfawr, ac rwy’n falch iawn bod y sesiwn hon wedi’i datblygu gyda hynny mewn golwg yn benodol.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld disgyblion chweched dosbarth Gŵyr yn datblygu eu sgiliau hyfforddi ac yn dod yn fodelau rôl ar gyfer plant a phobol ifanc sy’n siarad Cymraeg yn eu cymuned leol.”
‘Angerddol am y Gymraeg’
Dywed Julian Winter, prif weithredwr Clwb Pêl-droed Abertawe fod “hon yn fenter wych rhwng y Swans Foundation a Menter Iaith Abertawe”.
“Mae’r Gymraeg yn rhywbeth yr ydym ni fel clwb yn teimlo’n angerddol iawn amdano ac mae gennym gynlluniau i ddatblygu ymhellach, a bydd yn gyffrous gweld chwaraewyr ifanc yn cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y sesiynau yma,” meddai.