Wrth i’r rhyfel yn Wcráin ddwysau, a gyda biliau ynni yn cynyddu ar draws y Deyrnas Unedig, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi bod yn ateb cwestiynau gan Aelodau Seneddol yn San Steffan.

Dechreuodd Boris Johnson y sesiwn drwy ddweud nad yw Tŷ’r Cyffredin erioed wedi gwrando ar anerchiad fel yr un gafwyd gan yr Arlywydd Zelenskiy ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 8).

Wrth annerch y siambr, roedd Arlywydd yr Wcráin wedi galw ar y Deyrnas Unedig i gynyddu’r sancsiynau yn erbyn Rwsia a chydnabod y wlad fel gwladwriaeth frawychol.

“Doedd yr Wcráin ddim yn eisiau’r rhyfel yma,” meddai.

“Nid yw’r Wcráin wedi bod yn edrych am statws ond mae statws ein gwlad wedi cynyddu yn ystod y rhyfel hwn.

“Ni yw’r wlad sy’n achub pobol er gwaethaf gorfod ymladd un o’r byddinau mwyaf yn y byd.

“Byddwn yn ymladd tan y diwedd, yn y môr, yn yr awyr. Byddwn yn parhau i ymladd dros ein tir, beth bynnag fo’r gost.

“Byddwn yn ymladd yn y coedwigoedd, yn y caeau, ar y glannau, ac ar y strydoedd.”

Tro pedol?

Wrth drafod biliau ynni yn ei gwestiwn cyntaf i’r Prif Weinidog, dywedodd arweinydd Llafur Syr Keir Starmer fod “y bil ynni cyfartalog yn codi £700 y mis nesaf ac mae hynny oherwydd pwysau cyn i Rwsia ymosod ar yr Wcráin”.

“Ateb y Canghellor: benthyciad gorfodol o £200 ar gyfer pob cartref i gael ei dalu yn ôl mewn rhandaliadau gorfodol dros bum mlynedd,” meddai.

“Y gambl fawr y tu ôl i’r polisi hwnnw oedd y byddai costau ynni’n gostwng yn gyflym.

“Mae’r bet hwnnw’n edrych yn sicr o fethu erbyn hyn.

“Pryd fydd y Prif Weinidog yn gorfodi’r Canghellor i wneud tro pedol?”

Atebodd Boris Johnson drwy ddweud bod “y Canghellor wedi nodi cynlluniau i helpu teuluoedd â chostau ynni gyda mesurau digynsail i leihau’r dreth gyngor £150 yn ychwanegol at yr holl gynlluniau eraill yr ydym yn eu cyflwyno”.

“Ydy, mae’n llygad ei le bod angen i ni ymateb i effeithiau hirdymor y cynnydd mewn prisiau ynni a dyna pam y byddaf yn gosod cynllun annibyniaeth ynni ar gyfer y wlad hon yn ystod y dyddiau nesaf i sicrhau ein bod yn dadwneud rhywfaint o ddifrod penderfyniadau blaenorol a wnaed, yn enwedig gan y llywodraeth Lafur i beidio â buddsoddi mewn niwclear,  ac fel ein bod yn paratoi ein pobl ar gyfer y tymor hir a’i gyflenwad ynni cynaliadwy a chost-effeithlon,” meddai.

Wrth ymateb i wrthodiad y Prif Weinidog i wneud tro pedol, dywedodd Syr Keir Starmer y “cawn weld pa mor hir y mae’r sefyllfa honno’n para”.

‘Llanast llwyr’

Aeth arweinydd Llafur yn ei flaen i alw cefnogaeth y Llywodraeth ar filiau ynni yn “llanast llwyr”.

“Dydw i ddim yn credu bod y Prif Weinidog yn deall y llanast y mae ynddo,” meddai.

“Mae teuluoedd sy’n gweithio yn wynebu cynnydd o £700 ym mis Ebrill, fyddan nhw ddim hyd yn oed yn cael eu benthyciad o £200 gan y Canghellor tan fis Hydref.

“Mae’n llanastr llwyr, felly gofynnaf eto, pryd y bydd y Prif Weinidog yn gorfodi’r Canghellor i wneud tro pedol?”

“Rydym yn mynd i barhau i roi cefnogaeth i bobol drwy gydol y cyfnod anodd hwn fel y gwnaethom drwy gydol yr epidemig coronafeirws, gyda lefelau digynsail o gefnogaeth,” meddai Boris Johnson.

“Mae gennym ostyngiad o £200 ar filiau, gostyngiad o £150 na ellir ei ad-dalu yn y dreth gyngor a £144m yn ychwanegol i helpu cynghorau i gefnogi teuluoedd sy’n agored i niwed gyda’u biliau ynni.

“Mae cyfanswm y pecyn cymorth ariannol yr ydym yn ei roi i bobol Prydain werth £20bn, a byddwn yn parhau i wneud mwy.

“Rwy’n credu mai tro pedol yw’r peth olaf rydyn ni eisiau.”

Ymateb y Deyrnas Unedig i ffoaduriaid yn “gywilyddus”

Dywedodd Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, fod 760 fisa mewn pythefnos yn “gywilyddus”.

Tynnodd sylw at y ffaith bod Gwlad Pwyl wedi cymryd dros 1.2m o ffoaduriaid, tra bod Hwngari wedi cymryd dros 190,000, a’r Almaen wedi rhoi lloches i dros 50,000.

Cyhuddodd y Swyddfa Gartref o fod â’r ymateb gwaethaf yn Ewrop.

“Ddylai neb gefnogi’r Llywodraeth hwn ar sail eu hymateb i’r argyfwng ffoaduriaid,” meddai.

“Mae 760 fisa mewn pythefnos yn gywilyddus.

“Mae Iwerddon, gwlad o ychydig dros bum miliwn o bobol, wedi rhoi lloches i dair gwaith yn fwy o ffoaduriaid na’r Deyrnas Unedig.

“Dyw’r ffigyrau hyn ddim yn dweud celwydd, maen nhw’n datgelu gwirionedd erchyll.

“Ydi’r Prif Weinidog yn credu ei bod hi’n dderbyniol bod ei Ysgrifennydd Cartref wedi goruchwylio’r ymateb mwyaf araf, mwyaf biwrocrataidd a mwyaf analluog yn Ewrop?”

Amddiffynnodd Boris Johnson yr Ysgrifennydd Cartref gan ddweud bod bron i 1,000 o bobol bellach wedi cael fias.

“Mae disgwyl i’r niferoedd hynny godi’n sydyn, ac rwy’n disgwyl i gannoedd o filoedd o Wcrainiaid ddod i’r Deyrnas Unedig,” meddai.

‘Tosturi’

Fodd bynnag, dydy Boris Johnson ddim yn deall y brys, yn ôl Ian Blackford.

“Mae pobol yn dianc rhag troseddau rhyfel, ac mae’r Ysgrifennydd Cartref yn eu rhwystro â biwrocratiaeth,” meddai.

“Mae’r Swyddfa Gartref yn cynnig biwrocratiaeth, pan ddylai fod yn cynnig tosturi.

“A fydd y Llywodraeth yn hepgor cyfyngiadau fisa ar gyfer Wcreiniaid?”

Gwrthododd y Prif Weinidog gadarnhau hynny, ond mynnodd bod y Deyrnas Unedig wedi darparu mwy o gymorth dyngarol i Wcráin nag unrhyw wlad arall.