Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am enw bachog i’r bar ar Faes yr Eisteddfod.

Ar ôl blynyddoedd o wasanaethu’r Maes, mae’r Bar Gwyrdd a’r Bar Guinness yn ymddeol eleni.

Yn eu lle, bydd bar newydd sbon ar y maes yn Eisteddfod Ceredigion, ac mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am enw iddo.

Fe fydd yr enw’n cael ei ddefnyddio am flynyddoedd wrth i’r Eisteddfod deithio o amgylch Cymru, felly mae angen osgoi bod yn rhy blwyfol neu’n rhy leol eich tafodiaith wrth feddwl am syniadau.

Rhaid i’r enw weithio o Gaergybi i Gaerfyrddin, ac o’r Wyddgrug i’r Wdig, yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Ac wrth ffarwelio â’r hen fariau ffyddlon, fe ddaeth yr awr i feddwl am enw bachog i gartref newydd y cwrw ar Faes y Brifwyl,” meddai llefarydd.

“Mae un peth yn sicr, ’does dim rhaid bod yn brifardd i fathu enw i’n prif-far newydd.

“Ond mae angen bod yn greadigol, gwreiddiol ac yn genedlaethol eich gweledigaeth gyda’ch awgrymiadau ar gyfer un o gonglfeini’r Maes.

“Does dim gwobr am awgrymu’r enw buddugol – dim ond y bri ac anrhydedd o wybod bod eich awgrym chi’n sicr o gael croeso mawr gan feirdd, cantorion, enwogion ac ymwelwyr sychedig yr Eisteddfod am flynyddoedd i ddod!”

Cynnig syniadau

Mae’n bosib cynnig syniadau drwy gwblhau ffurflen ar wefan yr Eisteddfod neu yrru ceisiadau at gwyb@eisteddfod.cymru, ac mae croeso i bobol awgrymu mwy nag un enw.

Bydd angen gyrru’r awgrymiadau erbyn nos Wener, Mawrth 18, a bydd yr enw buddugol yn cael ei gyhoeddi ymhen ychydig wythnosau.