Mae S4C wedi cyhoeddi dau benodiad a fydd yn “allweddol” wrth ehangu eu gwasanaethau ar draws y llwyfannau digidol.
Fe fydd Llinos Griffin-Williams yn ymuno â’r darlledwr fel Swyddog Cynnwys, tra bod Geraint Evans wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi.
Bwriad y sianel ers tro yw trawsnewid o ddarlledu gan ddilyn amserlen yn unig, i fod yn wasanaeth sydd ar gael ar sawl platfform digidol ar alw.
Datgelodd y darlledwr yn gynharach heddiw (dydd Llun, Mawrth 7) fod eu buddsoddiad mewn ehangu’n ddigidol eisoes wedi talu ar ei ganfed, ar ôl iddyn nhw gofnodi’r ffigyrau gwylio ar-lein uchaf erioed ym mis Chwefror.
Swyddog Cynnwys
Ar hyn o bryd, mae Llinos Griffin-Williams yn Gyfarwyddwr Creadigol y cwmni cynhyrchu annibynnol Wildflame yng Nghaerdydd.
Yn ystod ei chyfnod gyda’r cwmni, mae hi wedi helpu i arwain y gwaith o ddatblygu cynnwys rhyngwladol.
Drwy hynny, mae’r cwmni wedi sicrhau cytundebau gyda darlledwyr byd-eang megis Discovery+, Paramount+, Smithsonian Channel/ViacomCBS a Science Channel.
Yn ogystal, maen nhw wedi gwerthu cynnwys i Amazon Prime, Acorn, Brit Box a Nat Geo.
“Rwyf wrth fy modd yn ymgymryd â rôl y Prif Swyddog Cynnwys yn S4C,” meddai.
“Mae’n fraint wirioneddol cael bod yn rhan o’r tîm arweinyddol yn ystod cyfnod mor gyffrous ond heriol.
“Mae’r sianel yn rhan o wead diwylliannol a chymdeithasol Cymru ac mae’n anrhydedd i mi fod yn rhan o’r tîm sy’n gyrru’r rhwydwaith i’r llwyfan byd-eang.
“Yn creu cynnwys gwreiddiol diddorol, partneriaethau deinamig a herio rhagdybiaethau.”
Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi
Ar hyn o bryd, Geraint Evans yw Cyfarwyddwr Cynnwys Dros Dro S4C.
Cyn ymuno â’r darlledwr, roedd yn newyddiadurwr hirsefydlog gydag ITV Cymru am 25 mlynedd.
Yn ystod ei gyfnod yno, roedd wedi gohebu ar y gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, cyn mynd ymlaen i ddod yn olygydd y gyfres, yn ogystal â phennaeth rhaglenni Cymraeg ITV.
Hefyd yn ITV, mae wedi llwyddo i sicrhau bod rhaglenni newydd fel Y Byd yn ei Le, Y Ditectif ac Ein Byd yn cael eu darlledu, ac wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith.
Fe ymunodd ag S4C yn 2019, ac mae wedi comisiynu nifer o raglenni dogfen materion cyfoes pwerus fel Llofruddiaeth Mike O’Leary a Prif Weinidog Cymru.
Mae o hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn ail-lansio’r gyfres Pawb a’i Farn, ac wedi arwain ar y gwaith o ddod â gwasanaeth Newyddion S4C i lwyfannau digidol.
“Mae’n gyfnod cyffrous i gael y dasg o arwain y strategaeth cynnwys a chyhoeddi ar gyfer S4C,” meddai Geraint.
“Mae gennym gymaint o dalent yng Nghymru sy’n cynhyrchu drama, rhaglenni dogfen a fformatau arloesol o ansawdd uchel.
“Yr her i S4C, fel i bob darlledwr arall, yw cyrraedd a gwasanaethu ein cynulleidfa ar y llwyfannau o’u dewis.
“Sefydlwyd S4C 40 mlynedd yn ôl gyda’r bwriad o wasanaethu cynulleidfa Gymraeg ar gyfrwng mwyaf poblogaidd y cyfnod, sef teledu.
“Nawr, mae gennym gyfrifoldeb i fynd â chynnwys Cymraeg y tu hwnt i deledu llinellol traddodiadol i lwyfannau mwyaf poblogaidd ein hamser, gan roi cyfle i’n sector iaith, diwylliant a chynhyrchu ffynnu.”
‘Darparu amrywiaeth o gynnwys’
Mae Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, yn falch o gael croesawu’r ddau i’w swyddi newydd o fis Ebrill.
“Rwyf wrth fy modd fod rhywun o dalent a phrofiad Llinos yn dod i weithio yn S4C,” meddai.
“Bydd ei henw da fel gwneuthurwr rhaglenni a’i phrofiad rhyngwladol yn allweddol wrth i ni fynd ati i godi proffil S4C yn rhyngwladol.
“Mae Geraint yn dod a phrofiad a dealltwriaeth eang o ddarlledu, a’r hinsawdd gyfryngol fydd yn allweddol wrth i ni baratoi ar gyfer ail 40 mlynedd o fodolaeth S4C.
“Byddwn yn newid ein ffordd o gomisiynu a chyfleu rhaglenni a chynnwys ar gyfer ein wahanol gynulleidfaoedd.
“Ni fyddwn yn darlledu amserlen statig yn unig, ond yn darparu amrywiaeth o gynnwys, yn arbennig ar gyfer rhannau penodol o’r gynulleidfa ar y llwyfannau mwyaf addas ar gyfer y gynulleidfa a’r cynnwys.”