Mae S4C wedi gweld eu ffigyrau gwylio digidol yn cyrraedd eu huchafbwynt yn ystod mis Chwefror eleni.
Fe gyhoeddodd y darlledwr bod cynnydd o 35% wedi bod ar y flwyddyn flaenorol ar draws eu holl sianeli YouTube.
Ar ben hynny, fe wnaeth yr oriau gwylio ar draws eu holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol godi 42% ar y flwyddyn flaenorol, sy’n golygu mai dyma oedd y ffigyrau uchaf i gael eu cofnodi gan y sianel.
Mae’n debyg bod cynnwys ar-lein o gyfres Cymru o’r Awyr, sy’n ffilmio arfordir Cymru o’r de i’r gogledd, wedi gyrru’r cynnydd.
Roedd fideos poblogaidd eraill yn cynnwys ‘Yn y Garej gyda Howard’ ar sianel Ralio, gemau rygbi Uwch Gynghrair Grŵp Indigo, a fideos ‘Caru Canu’ ar sianel Cyw wedi bod yn boblogaidd hefyd.
‘Rhoi ein cynulleidfa yng nghalon y sianel’
Mae hi wedi bod yn fwriad gan S4C i geisio cynyddu eu harlwy digidol, yn ôl y Prif Weithredwr Siân Doyle.
“Mae S4C wedi buddsoddi yn helaeth yn ein hadran gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar ac felly rwy’n falch iawn o weld y cynnydd hwn,” meddai.
“Wrth i ni roi ein cynulleidfa yng nghalon y sianel a symud ar siwrnai ddigidol rydyn ni am ymateb i anghenion ein gwylwyr a chyhoeddi cynnwys ar blatfformau o’u dewis.
“Ein nod yw sicrhau fod modd i’n gwylwyr wylio ein cynnwys ar ba bynnag blatfform maen nhw’n dymuno pryd bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw a bydd ffocws ein gwaith yn sicrhau ein bod yn fwy amlwg nag erioed ar draws yr holl gyfryngau a phlatfformau.
“Rwy’n falch iawn fod ein cynnwys yn apelio i’n gwylwyr a llongyfarchiadau mawr i’r tîm i gyd.”
Llwyfan rhyngwladol
Roedd Siân Doyle yn un o’r degau o Gymry a wnaeth fynychu digwyddiad arbennig i nodi Dydd Gŵyl Dewi yn Los Angeles yn ddiweddar.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru drefnu’r digwyddiad i roi cydnabyddiaeth ryngwladol i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac i godi proffil y Gymraeg.
Hefyd yn annerch y dorf roedd un o berchnogion clwb pêl-droed Wrecsam, Rob McElhenney, sydd wedi bod yn hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn helaeth ers eu prynu.
“Mae jyst mor ffantastig i fod yn Los Angeles a gweld gymaint o Gymry yma,” meddai Siân Doyle wrth Newyddion S4C yn ystod y digwyddiad.
“Mae yna gymaint o ewyllys da ynglŷn â Chymru, ac i fi, dyma gyfle ffantastig i gael partneriaethau – i ddod â Los Angeles i Gymru, a Chymru i Los Angeles.
“Blaenoriaeth S4C ydi creu cynnwys cyffrous yn yr iaith Gymraeg, ond ein bod ni wedyn yn gallu dangos hynny i’r byd rhyngwladol achos mae gennym ni gymaint o dalent yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor dda ydyn ni ond dydyn ni ddim ambell waith yn dangos hynny.”