Mae Kelly Jones, canwr y band Stereophonics, wedi datgelu bod eu cân newydd ‘Forever’ yn trafod brwydr ei fab â chanser.

Dywed y prif leisydd o Gwmaman ger Aberdâr fod y cyfnod yn un “difrifol a brawychus”, a’i fab Colby ond yn rhyw 18 mis oed ar y pryd.

Doedd e heb wneud dim â’r cân tan bod y band yn paratoi’r albwm ‘Oochya!’.

“Roedd hi’n berthnasol ar y pryd, ond wnes i fyth ryddhau’r gân,” meddai.

“Ond wedyn, mae bywyd yn mynd yn ei flaen ac mae gennych chi heriau eraill yn eich bywyd, ac ro’n i jyst yn meddwl bod y geiriau’n… nid yn amwys ond yn agored i ddehongliad.

“Doeddwn i ddim wedi anghofio amdani.

“Roedd gen i’r gân yno, ond roedd hi’n addas ar gyfer teimlad y record.

“Er bod y gân am rywbeth personol iawn, iawn, mae sut mae’r gân yn gwneud i chi deimlo yn eithaf buddugoliaethus.

“Mae’n gyferbyniad rhyfedd mewn gwirionedd.”