Wythnos yn unig ar ôl marwolaeth yr awdures Shirley Hughes yn 94 oed ar Chwefror 25, daeth cadarnhad fod y gwaith o ddymchwel siop ei thad T J Hughes, oedd yn fab i ddyn o Gorwen, wedi dechrau yn Lerpwl.

Shirley Hughes
Shirley Hughes

Mae Shirley Hughes yn fwyaf adnabyddus am ei llyfrau yn y gyfres Alfie, sy’n adrodd hanes bachgen a’i chwaer Annie Rose, a’r llyfr Dogger am fachgen bach sy’n colli ei gi tegan ac mae nifer o’i llyfrau wedi cael eu trosi i’r Gymraeg gan Tegwyn Jones, Hedd Emlyn ac eraill.

Enillodd nifer o’i chyfrolau wobrau ar hyd y blynyddoedd, a hithau wedi creu darluniau ar gyfer tua 200 o lyfrau i blant, ac wedi gwerthu dros ddeg miliwn copi o’i llyfrau ei hun fel awdures.

Cafodd ei geni yng Nglannau Mersi lle sefydlodd ei thad ei siop gyntaf a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach fel cadwyn yng ngogledd Lloegr a’r Alban.

Ar ôl astudio darlunio a dylunio gwisgoedd yn Ysgol Gelf Lerpwl, aeth Shirley Hughes yn ei blaen i astudio celf gain yn Rhydychen.

Roedd hi’n briod â’r pensaer John Vulliamy, ac roedd ganddyn nhw dri o blant – Clara, Ed a Tom.

“Trist clywed am farwolaeth yr awdur a’r darluniwr plant Shirley Hughes,” meddai Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru, fydd yn dechrau ar ei gwaith yn brif weithredwr newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Mae ei straeon hyfryd, wedi eu darlunio mor gain, wedi dod â llawenydd i genedlaethau o ddarllenwyr. Roedd anturiaethau Alffi a Lili Mei yn rhan bwysig o amser gwely’n plant ni am flynyddoedd.

“Diolch iddi.”

Thomas John Hughes a’i siopau

Agorodd Thomas John Hughes ei siop gyntaf yn Lerpwl yn 1912, ac fe ddaeth yn un o siopau mwya’r ddinas o fewn rhai degawdau, gan gyflogi hyd at 400 o weithwyr.

Ac yntau wedi ymroi’n llwyr i’w waith, fe ddioddefodd ei iechyd ac fe fu’n rhaid camu’n ôl, ond fe gafodd hynny effaith wedyn ar ei iechyd meddwl.

Bu farw yn 1933, a’r gred yw iddo ladd ei hun ar fferi ger Ynys Manaw oedd yn mynd am ddinas Belfast, ond ddaeth neb o hyd i’w gorff yn y môr wedyn.

Ond mae ei enw wedi’i gerfio ar gofeb y teulu yn Lerpwl.

Erbyn 2006, roedd cynlluniau wedi’u cyflwyno i droi’r safle drws nesaf i’r siop yn adeilad preswyl gyda lle i 266 o fflatiau, gydag adeilad y siop i fod yn gartref i 250 o fflatiau.