Yr actor, cyfarwyddwr a dramodydd Steffan Donnelly fydd yn olynu Arwel Gruffydd fel Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd Steffan Donnelly yn ymuno â’r Cyfarwyddwr Gweithredol, Angharad Jones Leefe, i weithio gyda’i gilydd fel cyd-Brif Weithredwyr o fis Mehefin eleni.

Daw Steffan Donnelly yn wreiddiol o Lanfairpwll ar Ynys Môn, ac ers iddo raddio o’r Guildhall School of Music and Drama mae e wedi rhannu ei amser rhwng Cymru a Llundain.

Sefydlodd Gwmni Theatr Invertigo yn 2012, ac ers hynny mae’r cwmni wedi teithio ledled Cymru a thu hwnt gyda chynyrchiadau fel Y Tŵr, My Body Welsh, a Derwen.

Mae Steffan Donnelly wedi treulio cyfnodau fel actor yn y Barbican, Theatr Clwyd, a’r Shakespeare Globe.

Yn ddiweddar, cyfarwyddodd y cynhyrchiad Gwlad yr Asyn i Theatr Genedlaethol Cymru, a ffilmiau byrion Monologau’r Maes i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Bu’n rhan o’r grŵp oedd yn gyfrifol ar sefydlu Llawryddion Celfyddydol Cymru, ac yn gyfrifol am lunio dau adroddiad ar gyflwr y sector ers y pandemig.

‘Adrodd ein stori i’r byd’

Yn dilyn ei benodiad, dywed ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno â’r Theatr Genedlaethol.

“Mi fydd yn anrhydedd cydweithio efo’r tîm a llawryddion arbennig Cymru i ddatblygu rhaglen uchelgeisiol efo ac ar gyfer cymunedau ledled y wlad,” meddai.

“Bydd cydweithio hirdymor, arloesi gyda ffurf a chynnwys, a gweithredu yn radical o gynhwysol wrth wraidd y gwaith.

“Bwriadaf archwilio a dathlu gwahanol fathau o Gymreictod, ac adrodd ein stori i weddill y byd: stori gwlad fechan, ddeinamig ac amlieithog, mewn cyd-destun Ewropeaidd.

“Credaf y dylai’r Gymraeg fod yn iaith hyderus a chroesawgar, yn enwedig i ddysgwyr, ac rwy’n awyddus i adeiladu ar y gwaith da sydd wedi ei wneud eisoes i fod yn fwy hygyrch.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio efo Angharad a’r tîm i gyflwyno rhaglen ysbrydoledig yn 2023.”

‘Tîm arbennig’

Steffan Donnelly ac Angharad Jones Leefe

Mae Angharad Jones Leefe, y Cyfarwyddwr Gweithredol, wedi gweithio i’r cwmni ers 2015, a chyn hynny bu’n gweithio i Gyngor Sir Gâr yn cynnig cymorth busnes a grantiau i fusnesau.

A hithau’n hanu o Sir Gâr, mae hi’n frwd dros ei milltir sgwâr, gan wasanaethu fel Cynghorydd Tref Caerfyrddin a Llywodraethwr Ysgol Bro Myrddin.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Steffan i arwain Theatr Genedlaethol Cymru ym mhennod nesaf ei hanes,” meddai.

“Mae tîm arbennig o bobol yma sydd wedi cynnal arlwy eithriadol yn ystod y pandemig, a byddant yn falch iawn o gydweithio gyda pherson amryddawn fel Steffan i gynnig profiadau cyffrous i’n cynulleidfaoedd a’n cyfranogwyr.”

‘O nerth i nerth’

Dywed Efa Gruffudd Jones, Cadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru, eu bod nhw wedi cyffroi gan weledigaeth artistig a brwdfrydedd Steffan Donnelly.

“Hoffem gofnodi ein diolch hefyd i Arwel Gruffydd am ddatblygu Theatr Genedlaethol Cymru dros y cyfnod diwethaf ac am sicrhau bod seiliau cryf i adeiladu arnynt,” meddai.

“Ry’n ni am weld Theatr Genedlaethol Cymru yn mynd o nerth i nerth wrth greu theatr gyfoes ac ardderchog trwy gyfrwng y Gymraeg.”