Mae cadeirydd S4C yn dweud bod yr addewid o £7.5m yn ychwanegol bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf i ddatblygu’n ddigidol yn “adlewyrchu ffydd y DCMS a’r Ysgrifennydd Gwladol Nadine Dorries, yng ngwledigaeth S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf”.
Mae’n gyfystyr â chynnydd o 9% yng nghyllid S4C, ar ôl pum mlynedd o rewi’r cyllid.
Bydd hyn yn golygu cyllideb o oddeutu £88.8 miliwn y flwyddyn i S4C o’r Ffi Drwydded.
Bydd y drefn ariannu newydd yn dod i fodolaeth o Ebrill 1, gyda’r setliad yn parhau tan Fawrth 31, 2027.
Arolwg
Yn ôl Nadine Dorries, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, daw’r arian yn unol ag argymehlliad yn yr arolwg annibynnol o S4C yn 2018, oedd yn argymell mai ffi’r drwydded fydd yr unig ddull o ariannu’r sianel, a chaiff ei roi “i gefnogi datblygiad yr arlwy digidol,” meddai.
Ond bydd ffi drwydded y BBC yn cael ei rhewi ar £159 y flwyddyn hyd at Ebrill 2024, gyda chynnydd yn ôl lefelau chwyddiant am dair blynedd wedyn.
Mae Nadine Dorries hefyd wedi dweud, dros y penwythnos cyn y cyhoeddiad, mai’r setliad fydd “yr olaf” gan alw am “drafodaeth am ffordd newydd o gyllido”.
This licence fee announcement will be the last. The days of the elderly being threatened with prison sentences and bailiffs knocking on doors, are over.
Time now to discuss and debate new ways of funding, supporting and selling great British content. https://t.co/sXtK25q27H
— Nadine Dorries (@NadineDorries) January 16, 2022
Gan fod cyllid S4C bellach yn dod yn gyfan gwbl o’r ffi drwydded, mae hyn yn golygu ansicrwydd am y model cyllid hirdymor.
Ymateb
Fodd bynnag, mae setliad S4C heddiw wedi cael ei groesawu gan Rhodri Williams, cadeirydd y sianel, a’r prif weithredwr newydd, Sian Doyle.
“Mae S4C yn chwarae rhan unigryw ac allweddol wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chefnogi ein tirlun darlledu gwasanaeth cyhoeddus ehangach,” meddai.
“Mae’r setliad yma’n adlewyrchu ffydd y DCMS, a’r Ysgrifennydd Gwladol Nadine Dorries, yng ngweledigaeth S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf,” meddai Rhodri Williams.
“O ystyried yr hinsawdd economaidd mae’r setliad ariannol hwn, sy’n dod ar ôl misoedd o drafod rhwng y sianel a’r Llywodraeth, yn rhoi sylfaen dda i S4C gynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf.
“Rydym yn diolch i’r Ysgrifennydd Gwladol a’i swyddogion am broses adeiladol a phositif sydd wedi dangos cefnogaeth i uchelgais S4C.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, aelodau seneddol, aelodau Senedd Cymru, aelodau Tŷ’r Arglwyddi a nifer fawr o sefydliadau, cymdeithasau a chyfeillion ar hyd a lled Cymru wnaeth gefnogi’n hachos.
“Roedd dangos fod cefnogaeth drawsbleidiol drwy Gymru benbaladr yn cryfhau achos S4C wrth i ni gyflwyno’n cais i’r DCMS.”
Yn ôl Siân Doyle, y prif weithredwr, mae’r setliad yn “newyddion gwych i gynulleidfa S4C yng Nghymru a thu hwnt”.
“Yng ngoleuni’r cyhoeddiad byddwn nawr yn gweithio yn ofalus er mwyn gwireddu ein cynlluniau ar gyfer 2022-27,” meddai.
“Byddwn yn edrych sut gallwn drawsnewid ein chwaraewr S4C Clic, sicrhau dosbarthiad ehangach ein cynnwys ar draws llwyfannau digidol, a gwella ein amlygrwydd ar setiau teledu clyfar.
“Mae hyn oll yn adlewyrchu’r newid yn y ffordd mae pobl yn gwylio cynnwys a rhaglenni teledu.”