Mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan, wedi condemnio “ymgais druenus” Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rewi ffi’r drwydded ar gyfer gwasanaethau’r BBC.

Mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi y bydd ffi’r drwydded yn cael ei rewi dros y ddwy flynedd nesaf, gydag awgrymiadau y gallai’r ffi gael ei ddiddymu’n llwyr erbyn 2027.

Byddai hynny hefyd yn effeithio ar S4C, a fydd derbyn ei holl gyllid o ffi’r drwydded o flwyddyn ariannol 2022-23.

“Mae penderfyniad y Torïaid i fandaleiddio’r BBC, sefydliad Prydeinig byd-enwog yn ei flwyddyn ganmlwyddiant, yn ymgais druenus i dynnu sylw’r cyhoedd oddi wrth Brif Weinidog cywilyddus a ddylai ymddiswyddo,” meddai Jo Stevens.

“Mae rôl y BBC yn ein diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llwyddiant ysgubol.

“Mae pob £1 o weithgarwch economaidd y BBC yng Nghymru yn cynhyrchu £2.63 yn ein heconomi.

“Mae’r twf yn nifer y swyddi creadigol a’r busnes o ganlyniad i rôl annatod y BBC yng Nghymru wedi rhagori ar dwf yn y sector ledled y Deyrnas Unedig.

“Yn hytrach nag ymosod ar y BBC, dylai’r Llywodraeth Geidwadol fod yn canmol yr hyn sydd wedi’i gyflwyno i’r cyhoedd yn ystod y 100 mlynedd diwethaf ond yn enwedig yn ystod y pandemig.”

£7.5m yn ychwanegol bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf i S4C

“Mae’r setliad yma’n adlewyrchu ffydd y DCMS, a’r Ysgrifennydd Gwladol Nadine Dorries, yng ngweledigaeth S4C,” medd Rhodri Williams, cadeirydd S4C

Galwadau i ddatganoli darlledu er mwyn amddiffyn dyfodol S4C a BBC Cymru

S4C i dderbyn ei holl arian o ffi’r drwydded o’r flwyddyn ariannol nesaf, ond mae disgwyl i’r Llywodraeth ei rewi am ddwy flynedd