Mae cadeirydd S4C yn dweud bod yr addewid o £7.5m yn ychwanegol bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf i ddatblygu’n ddigidol yn “adlewyrchu ffydd y DCMS a’r Ysgrifennydd Gwladol Nadine Dorries, yng ngwledigaeth S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf”.

Mae’n gyfystyr â chynnydd o 9% yng nghyllid S4C, ar ôl pum mlynedd o rewi’r cyllid.

Bydd hyn yn golygu cyllideb o oddeutu £88.8 miliwn y flwyddyn i S4C o’r Ffi Drwydded.

Bydd y drefn ariannu newydd yn dod i fodolaeth o Ebrill 1, gyda’r setliad yn parhau tan Fawrth 31, 2027.

Arolwg

Yn ôl Nadine Dorries, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, daw’r arian yn unol ag argymehlliad yn yr arolwg annibynnol o S4C yn 2018, oedd yn argymell mai ffi’r drwydded fydd yr unig ddull o ariannu’r sianel, a chaiff ei roi “i gefnogi datblygiad yr arlwy digidol,” meddai.

Ond bydd ffi drwydded y BBC yn cael ei rhewi ar £159 y flwyddyn hyd at Ebrill 2024, gyda chynnydd yn ôl lefelau chwyddiant am dair blynedd wedyn.

Mae Nadine Dorries hefyd wedi dweud, dros y penwythnos cyn y cyhoeddiad, mai’r setliad fydd “yr olaf” gan alw am “drafodaeth am ffordd newydd o gyllido”.

Gan fod cyllid S4C bellach yn dod yn gyfan gwbl o’r ffi drwydded, mae hyn yn golygu ansicrwydd am y model cyllid hirdymor.

Ymateb

Fodd bynnag, mae setliad S4C heddiw wedi cael ei groesawu gan Rhodri Williams, cadeirydd y sianel, a’r prif weithredwr newydd, Sian Doyle.

“Mae S4C yn chwarae rhan unigryw ac allweddol wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chefnogi ein tirlun darlledu gwasanaeth cyhoeddus ehangach,” meddai.

“Mae’r setliad yma’n adlewyrchu ffydd y DCMS, a’r Ysgrifennydd Gwladol Nadine Dorries, yng ngweledigaeth S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf,” meddai Rhodri Williams.

“O ystyried yr hinsawdd economaidd mae’r setliad ariannol hwn, sy’n dod ar ôl misoedd o drafod  rhwng y sianel a’r Llywodraeth, yn rhoi sylfaen dda i S4C gynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf.

“Rydym yn diolch i’r Ysgrifennydd Gwladol a’i swyddogion am broses adeiladol a phositif sydd wedi dangos cefnogaeth i uchelgais S4C.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, aelodau seneddol, aelodau Senedd Cymru, aelodau Tŷ’r Arglwyddi a nifer fawr o sefydliadau, cymdeithasau a chyfeillion ar hyd a lled Cymru wnaeth gefnogi’n hachos.

“Roedd dangos fod cefnogaeth drawsbleidiol drwy Gymru benbaladr yn cryfhau achos S4C wrth i ni gyflwyno’n cais i’r DCMS.”

Yn ôl Siân Doyle, y prif weithredwr, mae’r setliad yn “newyddion gwych i gynulleidfa S4C yng Nghymru a thu hwnt”.

“Yng ngoleuni’r cyhoeddiad byddwn nawr yn gweithio yn ofalus er mwyn gwireddu ein cynlluniau ar gyfer 2022-27,” meddai.

“Byddwn yn edrych sut gallwn drawsnewid ein chwaraewr S4C Clic, sicrhau dosbarthiad ehangach ein cynnwys ar draws llwyfannau digidol, a gwella ein amlygrwydd ar setiau teledu clyfar.

“Mae hyn oll yn adlewyrchu’r newid yn y ffordd mae pobl yn gwylio cynnwys a rhaglenni teledu.”

Jo Stevens yn condemnio “ymgais druenus” Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rewi ffi’r drwydded

“Mae rôl y BBC yn ein diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llwyddiant ysgubol”

Galwadau i ddatganoli darlledu er mwyn amddiffyn dyfodol S4C a BBC Cymru

S4C i dderbyn ei holl arian o ffi’r drwydded o’r flwyddyn ariannol nesaf, ond mae disgwyl i’r Llywodraeth ei rewi am ddwy flynedd