Mae llefarydd diwylliant Plaid Cymru yn dweud y bydd agwedd y Ceidwadwyr tuag at ffi’r drwydded yn peryglu dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.

Mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi y bydd ffi’r drwydded ar gyfer gwasanaethau’r BBC yn cael ei rewi dros y ddwy flynedd nesaf, gydag awgrymiadau y gallai’r ffi gael ei ddiddymu’n llwyr erbyn 2027.

Byddai hynny hefyd yn effeithio ar S4C, a fydd derbyn ei holl gyllid o ffi’r drwydded o flwyddyn ariannol 2022-23.

Mae Heledd Fychan yn amau mai dull i dynnu sylw’r cyhoedd oddi wrth yr ymchwiliad i bartïon, sydd wedi rhoi dyfodol Boris Johnson mewn amheuaeth, yw hyn.

Mae’n bosib y bydd yr ymchwiliad hwnnw gan y gwas sifil Sue Gray wedi ei gwblhau cyn diwedd yr wythnos, a gallai’r canlyniadau gael sgil-effeithiau enbyd ar y Prif Weinidog, sydd eisoes wedi colli hyder llawer o’r cyhoedd.

Datganoli darlledu

Mae Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, yn dweud y dylai darlledu gael ei ddatganoli i awdurdodaeth Llywodraeth Cymru yn dilyn yr adroddiadau am ffi’r drwydded.

“Bydd yr adroddiadau ynglŷn â rhewi ffi drwydded y BBC am ddwy flynedd yn creu ansicrwydd enfawr am ddyfodol y cyfryngau Cymreig, yn enwedig ein sianel genedlaethol S4C a fydd yn cael ei hariannu’n llwyr o ffi’r drwydded,” meddai.

“Mae hyn yn ymddangos fel dargyfeiriad gan y Prif Weinidog, fel ymgais i gymodi rhai carfannau yn ei blaid yn dilyn wythnos drychinebus i’r Ceidwadwyr.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos gelyniaeth gynyddol tuag at y BBC tra ar yr un pryd, mae darpariaeth newyddion lleol yn prinhau. Mae hyn yn achosi diffyg cyfryngol yng Nghymru, sy’n niweidio ein democratiaeth.

“Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw am ddatganoli darlledu ar unwaith fel na fydd dyfodol S4C a BBC Cymru yn nwylo llywodraeth Dorïaidd, sy’n ddifater a di-glem paen mae’n dod i amddiffyn darpariaeth unigryw’r cyfryngau Cymreig.”