Mae’n debyg fod Boris Johnson wedi cael ei gyfweld fel rhan o’r ymchwiliad i bartïon honedig yn Rhif 10 yn ystod y cyfnod clo.
Roedd disgwyl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig “rannu popeth mae’n ei wybod” ynglŷn â’r honiadau gyda’r gwas sifil Sue Gray, sy’n arwain yr ymchwiliad.
Daeth adroddiadau am barti arall yn The Mirror dros y penwythnos, a hwnnw wedi’i gynnal ychydig cyn y Nadolig yn 2020, mae’n debyg.
Yn ôl y sïon, roedd y Prif Weinidog wedi rhoi araith yn ystod y digwyddiad hwn er mwyn talu teyrnged i’w gynghorydd ar Amddiffyn, y Capten Steve Higham, tra bod y wlad yn wynebu cyfnod clo arall oherwydd ton arall mewn achosion o Covid-19.
Wnaeth Rhif 10 na’r Weinyddiaeth Amddiffyn ddim gwneud sylw ar y mater.
Polisïau “poblogaidd”
Mae ymchwiliad Sue Gray yn canolbwyntio ar gyfres o adroddiadau am bartïon, gan gynnwys parti gardd ym mis Mai 2020 – ychydig wedi i’r cyfnod clo cyntaf gael ei gyflwyno – a pharti arall noson cyn angladd y Tywysog Philip fis Ebrill y llynedd.
Wrth ymateb i’r storm ddiweddaraf, mae adroddiadau’n nodi y gallai Boris Johnson gael gwared â nifer o’i staff uchel er mwyn goroesi fel Prif Weinidog.
Dywedodd The Times ei fod yn ystyried defnyddio’r cyfnod hwn i wthio polisïau “poblogaidd” hefyd, yn enwedig cymryd camau llymach yn erbyn mewnfudwyr sy’n croesi’r Sianel.
Mae’r syniad o rewi ffi drwydded y BBC hefyd wedi cael ei grybwyll dros y dyddiau diwethaf, gyda’r Ysgrifennydd Diwylliant Nadine Dorries yn awgrymu y gallai’r ffi gael ei ddiddymu’n llwyr.
Pigo cydwybod
Mae nifer o aelodau Ceidwadol yn San Steffan wedi gorfod ystyried dyfodol eu harweinydd dros y dyddiau diwethaf.
Dros y penwythnos, fe wnaeth y chweched aelod o feinciau cefn y Torïaid, Tim Loughton, alw ar Boris Johnson i ymddiswyddo.
Fe ddywedodd Chris Loder, Aelod Seneddol Gorllewin Dorset, wrth raglen Westminster Hour ar BBC Radio 4 nad yw “am alw am ymddiswyddiad unrhyw un” nes canlyniad yr ymchwiliad.
Dywedodd Andrew Bowie, AS Ceidwadol Gorllewin Swydd Aberdeen a Kincardine, y byddai’n aros i ddarllen casgliadau’r ymchwiliad, ond fe gyfaddefodd fod “llawer o ddrwgdeimlad allan yna a theimlad o anghysur” ar feinciau’r Torïaid.
Ychwanegodd ei fod yn credu y dylai Jacob Rees-Mogg, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, ymddiheuro wrth Douglas Ross, arweinydd y Torïaid yn yr Alban, a gafodd ei alw’n ffigwr “ysgafn” wedi iddo alw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo.