Mae cyn-filwr sy’n dweud iddo gael ei arteithio ar ôl i swyddogion ddod i wybod ei fod e’n hoyw, yn addo brwydro am gyfiawnder i eraill a gafodd eu trin yn yr un modd.

Roedd Simon Hinchley-Robson yn gweithio ar safle’r Awyrlu ym Mreudeth yn Sir Benfro pan ddaeth swyddogion i wybod ei fod e’n hoyw, ac fe gafodd ei holi am bedwar diwrnod, gan gynnwys gorfod tynnu ei ddillad.

Roedd e’n 21 oed pan gafodd ei ryddhau o’r Awyrlu yn 1986 am fod yn hoyw.

Cafodd ei achos sylw gan yr Aelod Seneddol Clive Efford yn San Steffan.

Mae’r cyn-filwr bellach yn 57 oed ac yn byw yn ne-ddwyrain Llundain, ac mae’n dadlau nad yw’r lluoedd arfog yn ddiogel o hyd i bobol o’r gymuned LHDT.

“Ro’n i eisiau iddyn nhw ddod ymlaen a dweud eu bod nhw’n anghywir,” meddai.

“Y cyfan roeddwn i eisiau oedd fy mhensiwn yn ôl. Dyna ni.

“Do’n i ddim eisiau arian mawr na dim byd felly.

“Mae cynifer o bobol fydd wedi profi union yr un fath.

“Mae o leiaf bedwar o bobol dw i’n gwybod amdanyn nhw, o Gibraltar yn ôl i’r Deyrnas Unedig, a brofodd rywbeth tebyg ac yn anffodus, fe wnaethon nhw grogi eu hunain.

“A dw i eisiau cyfiawnder iddyn nhw hefyd.”

Cefndir

Ymunodd Simon Hinchley-Robson â’r lluoedd arfog yn 1980.

Yn 1986, pan oedd e’n gwasanaethu fel cogydd yn Sir Benfro, cafodd ei daro’n wael ac fe gafodd e ddiagnosis o chwarenglwyf.

Collodd e gryn bwysau, ac fe wnaeth e ofyn am brawf AIDS.

Cafodd ei drosglwyddo i ysbyty cyffredin, lle cafodd e’r prawf a’i ryddhau am ddeng niwrnod.

Roedd y lluoedd arfog yn cymryd y cais am brawf AIDS fel cyfaddefiad ei fod e’n hoyw ac wrth ddychwelyd, cafodd ei arestio gan heddlu’r Awyrlu.

Cafodd yr helynt ei ddisgrifio gan yr Aelod Seneddol fel “y profiad mwyaf erchyll ac ofnadwy na ddylai neb fyth orfod ei oddef”.

Cafodd ei dywys i ystafell holi, lle cafodd ei gadw am bedwar diwrnod heb fwyd, heb gwsg a dim ond diferyn o ddŵr bob hyn a hyn.

Bu’n rhaid iddo dynnu ei ddillad ac fe gafodd e archwiliad corfforol mewnol, wrth i swyddogion fynnu mai “dyna’r drefn”, meddai.

Dioddefodd e ymosodiad rhyw pan wrthododd e ddweud a oedd e wedi cael perthynas gyda rhywun arall yn y lluoedd arfog.

Ymateb

Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn mynnu bod y lluoedd arfog bellach yn fwy diogel i bobol o’r gymuned LHDT.

Yn ôl llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae’r lluoedd arfog “yn falch” o bersonél sydd o’r gymuned LHDT a’u cyfraniad i’r lluoedd arfog.

Dywedodd fod y driniaeth o bobol o’r gymuned “yn annerbyniol bryd hynny a nawr”, ac nad ydyn nhw’n “goddef unrhyw fath o fwlio, aflonyddu na gwahaniaethu”.

Mae lle i gredu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio deall effaith yr ymdriniaeth o bobol o’r gymuned LHDT yn y lluoedd arfog arnyn nhw cyn 2000.

Mae nifer o wasanaethau wedi’u sefydlu er mwyn i gyn-filwyr gael cymorth iechyd meddwl a chefnogaeth ar gyfer materion eraill dros y blynyddoedd diwethaf.