Wrth i Boris Johnson a Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan gael cryn sylw yn y penawdau newyddion yr wythnos hon, roedd gêm eiriau gan Gymro yn trendio ar Twitter ar yr un pryd.

Cafodd y gêm boblogaidd Wordle ei datblygu gan y peiriannydd meddalwedd Josh Wardle o Landdewi Rhydderch ger y Fenni, a hynny gyda’r bwriad o’i chwarae gyda’i bartner, cyn ei rhannu gyda’i deulu ar WhatsApp.

Ac yntau bellach yn byw a gweithio yn Efrog Newydd, efallai ei bod hi’n anochel y byddai rhai o’r geiriau yn y gêm yn cael eu sillafu yn y ffordd Americanaidd, a’r gair ‘favor‘ oedd asgwrn y gynnen yr wythnos hon i’r miliynau o chwaraewyr yr ochr yma i’r Iwerydd.

Beth yw Wordle?

Gêm ar y we yw Wordle, ac mae’n debyg iawn i’r gêm fwrdd Mastermind o’r 1970au, a’r rhaglen deledu Lingo o’r 1980au a gafodd ei hatgyfodi gyda’r actor Adil Ray (Citizen Khan) yn ei chyflwyno ar ITV.

Nod y gêm yw dod o hyd i ‘air pum llythyren y dydd’, a gall y chwaraewr roi chwe chynnig arni i gyd.

Rhaid i bob gair sy’n cael ei ddyfalu fod yn air pum llythyren ac ar ôl pob cynnig, gall y chwaraewr weld pa lythrennau sy’n gywir ac sydd yn y lle cywir, pa lythrennau sy’n gywir ond sydd heb fod yn y lle cywir, neu’r llythrennau sy’n anghywir.

Os yw’r llythyren sy’n cael ei dyfalu yn y lle cywir, mae’r blwch yn troi’n wyrdd; os yw’r llythyren yn gywir heb fod yn y lle cywir, mae’r blwch yn troi’n oren; mae ymgais anghywir yn troi’r blwch yn llwyd.

Ar ôl rhoi cynnig ar air y dydd, mae’n rhaid aros tan y diwrnod canlynol ar gyfer y pôs nesaf.

Mae’r gêm wedi dod yn hynod boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae chwaraewyr yn cael eu gwahodd i rannu eu hystadegau ar Facebook, Twitter ac ati.

Fis Tachwedd, adeg creu’r gêm, dim ond tua 90 o bobol oedd yn chwarae’r gêm ar y we, ond mae cannoedd o filoedd yn ei chwarae hi erbyn hyn.

Gairglo

Mae modd chwarae fersiwn Gymraeg o’r gêm, Gairglo, drwy fynd i http://hiriaith.cymru/gairglo.

Mae gwefan hiriaith hefyd yn cynnwys y gêm Sgrabl, ap ynganu geiriau, sianel YouTube, a Hi-lite i helpu dysgwyr.

Cafodd y wefan a’r gemau eu datblygu gan Dr Rodolfo Piskorski, sy’n dysgu Portwgaeg yn Ysgol Ieithoedd Tramor Prifysgol Caerdydd.

Bu’n byw yng Nghymru ers 2013, pan symudodd i’r brifddinas ar gyfer ei ddoethuriaeth.

Ers hynny, mae e wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg, a fe oedd y person cyntaf i sefyll y prawf dinasyddiaeth Brydeinig trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Technoleg newydd i roi cymorth i ddysgu Cymraeg

Dr Rodolfo Piskorski, sy’n dysgu Portiwgaleg ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi datblygu’r dechnoleg

Mab Brasil, dinesydd Cymru

Portread o Rodolfo Piskorski