Mae Senedd Cosofo wedi pasio cynnig er mwyn atal Serbiaid ethnig rhag pleidleisio ar diroedd Cosofo yn refferendwm cenedlaethol Serbia ar ddiwygio’r Cyfansoddiad, yn ôl asiantaeth newyddion Reuters.
Pe bai’r diwygiadau’n cael eu derbyn, byddai’n newid y modd y caiff barnwyr ac erlynwyr eu hethol, gyda’r bwriad o geisio barnwriaeth annibynnol, sy’n un o’r amodau ar gyfer aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, yr Almaen, Ffrainc a’r Eidal – sydd i gyd o blaid annibyniaeth i Gosofo – yn annog y prif weinidog Albin Kurti i roi’r hawl i Serbiaid bleidleisio yn y refferendwm.
Ond roedd 76 allan o 120 o ddirprwyon wedi pleidleisio o blaid datganiad yn atal Serbia rhag agor gorsafoedd pleidleisio yng Nghosofo.
Byddai agor gorsafoedd mewn ardaloedd lle mae trwch y boblogaeth yn Serbiaid yn groes i’r Cyfansoddiad, meddai Kurti.
Pwysleisiodd Kurti fod modd i Serbiaid ethnig bleidleisio drwy’r post neu yn swyddfa gyswllt y llywodraeth yn Pristina.
“Mae Cosofo yn wladwriaeth annibynnol a sofran a dylid ei thrin felly,” meddai Kurti.
Cefndir
Mae Serbia yn ystyried Cosofo yn rhan o’r wlad, ac maen nhw wedi bod yn trefnu etholiadau ar eu rhan ers diwedd y rhyfel yn 1999.
Mae Serbia yn gwrthod cydnabod annibyniaeth Cosofo ers 2008, ond maen nhw’n addo gwella’r berthynas rhwng y ddwy wlad cyn ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.
Bwriad y gwaharddiad, yn ôl Swyddfa Serbia ar gyfer Cydweithredu â Chosofo yw “dileu hawliau gwleidyddol a sifil Serbiaid [yng Nghosofo]”.
Bydd Serbia yn cynnal etholiadau arlywyddol a seneddol ar Ebrill 3.
Ddoe, fe wnaeth heddlu Cosofo feddiannu dau gerbyd Comisiwn Etholiadol Serbia oedd yn cludo papurau pleidleisio dros y ffin i mewn i ardaloedd lle mai Serbiaid yw trwch y boblogaeth.
Mewn datganiad ar y cyd, mae’r Almaen, Ffrainc, yr Eidal, y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd yn “galw ar lywodraeth Cosofo i roi’r hawl i Serbiaid yng Nghosofo fwrw ymlaen â’u hawl i bleidleisio mewn etholiadau a phrosesau etholiadol yn unol â’r arfer sefydledig”.