Mae Liz Saville Roberts a Hywel Williams ymhlith yr aelodau seneddol sydd wedi llofnodi cynnig o ddiffyg hyder yn Boris Johnson.

Y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi cyflwyno’r cynnig yn erbyn prif weinidog y Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n herio’r Ceidwadwyr i’w gefnogi er mwyn gorfodi Boris Johnson i gamu o’r neilltu.

Mae’r cynnig wedi denu 19 o lofnodion hyd yn hyn, ac mae’n nodi bod y prif weinidog “wedi torri’r cyfreithiau clo y cyflwynodd ei Lywodraeth, wedi camarwain y Senedd a’r cyhoedd yn ei gylch, ac wedi tanseilio hyder y cyhoedd mewn modd trychinebus yng nghanol pandemig”.

Mae holl aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi llofnodi’r cynnig, ynghyd â dau aelod seneddol Llafur, un aelod o Alliance, a’r ddau aelod seneddol o Blaid Cymru.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi galw ar Jacob Rees-Mogg, arweinydd Tŷ’r Cyffredin, i alw pleidlais ar y cynnig o fewn wythnos.

Llythyr

Mae’r llythyr sy’n cyd-fynd â’r cynnig yn dweud ei bod hi’n “annerbyniol” bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “cuddio y tu ôl i ymchwiliad Sue Gray” i bartïon yn Downing Street a Whitehall, a’u bod nhw’n “gwrthod ateb cwestiynau neu gymryd cyfrifoldeb”.

Mae’n nodi hefyd fod swydd y prif weinidog yn “anghynaladwy” a’i fod e “wedi colli hyder y cyhoedd a’i aelodau seneddol ei hun” ar adeg pan fo “ymddiriedaeth yn y llywodraeth mor hanfodol”.

“Mae’n bryd i ASau Ceidwadol ddangos lle maen nhw’n sefyll,” meddai Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Ydyn nhw’n mynd i barhau i oddef Prif Weinidog oedd wedi dweud celwydd wrth y Senedd a’r cyhoedd, a gyfaddefodd ei fod e wedi torri’r rheolau clo ac sy’n gwrthod dwyn ei hun i gyfrif?

“Wrth aros yn Rhif 10, mae Boris Johnson yn fygythiad i iechyd y genedl – fydd neb yn cymryd unrhyw beth mae’n ei ddweud o ddifri, ac mae hynny, yn syml iawn, yn annerbyniol yn ystod pandemig.

“Nid yn unig y dylai ASau Ceidwadol gefnogi ein cynnig o ddiffyg hyder, ond dylen nhw bwyso ar Jacob Rees-Mogg i roi amser i’r cynnig ar gyfer pleidlais, a hynny yn fuan.

“Mae’r wlad yn haeddu’r cyfle i symud ymlaen o’r Prif Weinidog twyllodrus hwn.”