Mae hen dwlc mochyn yn nhref Moià yng Nghatalwnia wedi’i cael ei droi’n ganolfan ddiwylliannol fydd yn annog pobol i feddwl yn gritigol.

Bydd ‘A Cobert’ yn cael ei rhedeg gan y bardd ac arlunydd Nerea Campo ac Eudald Pla, curadur yr ŵyl gelfyddydol Ex Abrupto.

Nod y ganolfan fydd hybu creu artistig, meddwl yn gritigol a chreu syniadau newydd mewn ardaloedd gwledig drwy gyflwyniadau am lyfrau a pherfformiadau cerddorol.

Mae’r ganolfan wedi’i hagor gyda pherfformiad gan y bardd lleol Francesc Cañas ac Àngels Moreno, enillydd gwobr farddoniaeth fawreddog yn 2017.

Mae digwyddiadau celfyddydol wedi’u cynnal ar safle’r hen dwlc mochyn ers saith mlynedd, ond roedd awydd i droi’r safle’n ganolfan fodern ac i annog “ffyrdd newydd o feddwl”, megis ffeministiaeth neu’r amgylchedd.

Fydd dim alcohol na chig yn cael bod ar y safle, sy’n gyfuniad o ystafell fawr ar gyfer digwyddiadau, neuadd arddangosfeydd a gardd ar gyfer darlleniadau a myfyrio.