Mae gweddillion crocodeil y cafwyd hyd iddyn nhw o dan y llawr mewn ysgol Gymraeg yng Nghwm Rhondda yn 2019 yn cael eu harddangos.
Cafodd gweithwyr hyd i’r gweddillion wrth iddyn nhw weithio yn Ysgol Gymraeg Bodringallt ym Mhentre ym mis Mehefin 2019, ac maen nhw mewn cyflwr da.
Mae’r disgyblion bellach wedi cael gweld yr arddangosfa ar ôl i Gyngor Rhondda Cynon Taf gydweithio â Pure Conservation, cwmni sy’n arbenigo mewn cadwraeth ar gyfer arddangosfeydd.
Mae Pure Conservation yn dweud bod y gweddillion yn deillio o gyfnod cyn y 1900au, ac mae hanes crocodeil sydd â chysylltiadau â’r ysgol wedi’i hadrodd ers cenedlaethau.
Mae’n disgrifio person lleol fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac a ddaeth â chorff crocodeil yn ôl i’r ysgol yn anrheg.
Mae lle i gredu bod y crocodeil wedi cael ei arddangos, ond yna ei guddio o dan y llawr i’w warchod yn ystod rhyfeloedd a ddaeth wedyn.
Ond roedd y crocodeil wedi’i ddifrodi ar ôl bron i ganrif heb gael ei gadw’n gywir, ac roedd rhannau ohono ar goll.
Ond mae bellach wedi’i adfer yn dilyn gwaith cynnal a chadw gofalus.
‘Hollol anhygoel’
Yn ôl y Cynghorydd Joy Rosser, sydd â chyfrifoldeb am addysg a gwasanaethau cynhwysiant ar y Cyngor, mae’r sefyllfa’n “hollol anhygoel”.
“Dyna’r peth olaf roedd gweithwyr yn credu y bydden nhw’n dod ar ei draws o dan ystafell ddosbarth,” meddai.
“Roedd hi’n wych gweld golwg gyffrous ar wynebau’r disgyblion pan welon nhw’r crocodeil yn cael ei arddangos.
“Dw i’n sicr y daw’n rhan arbennig o’r ysgol wrth symud ymlaen – ac yn cynrychioli darn unigryw o hanes lleol y mae modd i ddisgyblion ac aelodau staff ei fwynhau am genedlaethau i ddod.”