Mae Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, yn parhau i fod dan bwysau ynghylch partïon yn Downing Street ym mis Mai 2020 – a hynny gan wleidyddion o bleidiau eraill, aelodau ei blaid ei hun, a phenawdau’r papurau newydd.

Yn dilyn cadarnhad Mr Johnson ei fod yn y parti ar 20 Mai 2020, mae ambell AS Torïaidd wedi galw arno i roi’r gorau iddi – gyda mwy yn lleisio’u pryderon am ei arweinyddiaeth yn breifat.

Yn eu plith mae Syr Roger Gale – un o feirniaid cyson Boris Johnson – y cyn-weinidog, Caroline Nokes, a chadeirydd y Pwyllgor Materion Cyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, William Wragg.

Geiriau Syr Roger Gale oedd fod Mr Johnson yn “dead man walking”.

Ar ôl Cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe (dydd Mercher 12 Ionawr), aeth Mr Johnson ar daith o amgylch ystafelloedd te Tŷ’r Cyffredin, lle mae aelodau seneddol yn ymgynnull, i siarad ag aelodau’r meinciau cefn.

Gwelwyd o leiaf un aelod yn dadlau’n chwyrn ag ef.

Os bydd 54 ohonyn nhw yn anfon llythyrau at Bwyllgor 1922 – y grŵp meinciau cefn dylanwadol sy’n rhedeg gornestau arweinyddiaeth y Torïaid – bydd yn sbarduno her i’w arweinyddiaeth.

“Anghynaladwy” – yr alwad o’r Alban

Dywedodd Douglas Ross, arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, ei fod yn credu bod sefyllfa’r prif weinidog “bellach yn anghynaladwy”.

“Fe yw’r Prif Weinidog, ei lywodraeth e sy’n rhoi’r rheolau hyn ar waith, ac mae’n rhaid ei ddal i gyfrif am ei weithredoedd,” meddai.

Cefnogwyd hyn gan bron bob aelod ceidwadol o Senedd yr Alban.

Fodd bynnag, aeth Jacob Rees-Mogg AS, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, ar Newsnight yn ddiweddarach a datgan fod Douglas Ross “wastad wedi bod yn ffigwr eithaf disylwedd”.

Cefnogaeth yn y Cabinet?

Mae rhai o weinidogion y Cabinet wedi bod yn ymbilio ar ASau Torïaidd i aros am ganfyddiadau yr ymchwiliad swyddogol cyn galw ar Mr Johnson i roi’r gorau iddi.

Mae ambell aelod blaenllaw, gan gynnwys y dirprwy brif weinidog, Dominic Raab, wedi bod yn lleisio a thrydar eu cefnogaeth i Mr Johnson – er bod rhywfaint o sylw wedi’i roi i ba mor hir y cymerodd y Canghellor, Rishi Sunak, i drydar.

Gwnaeth hynny’n hwyrach na phawb arall, am 8:11pm neithiwr ar ôl diwrnod gwaith i ffwrdd o Lundain yn Nyfnaint.

Ond dywedodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis AS, wrth Sky News: “Dwi wedi gweld Rishi yn gweithio gyda’r Prif Weinidog. Maent yn gweithio law yn llaw. Rwy’n gwybod bod Rishi yn cefnogi’r Prif Weinidog.”

Mynnodd Mr Lewis mai Mr Johnson oedd y person cywir i fod yn Brif Weinidog ac “rwy’n credu y byddwn yn gallu symud ymlaen ac ennill etholiad cyffredinol”.

Ni fyddai Boris Johnson wedi mwynhau penawdau’r bore

Ymddiheuro, ond…

Dywedodd Boris Johnson wrth aelodau seneddol ddoe (dydd Mercher 12 Ionawr) ei fod yn “dymuno ymddiheuro,” ond bod y digwyddiad yng ngardd Downing Street “yn dechnegol o fewn y rheolau”.

Cyfaddefodd, fodd bynnag, y dylai fod wedi sylweddoli sut y byddai’n edrych yn llygaid y cyhoedd ac “wrth edrych yn ôl y dylwn fod wedi anfon pawb yn ôl y tu mewn.”

Dywedodd Mr Johnson wrth ASau “fod yna bethau na wnaethom ni eu cael yn iawn ac mae’n rhaid i mi gymryd cyfrifoldeb”.

Yn y cyfamser, mynnodd llefarydd ar ran Downing Street nad oedd y Prif Weinidog wedi gweld yr e-bost yn gwahodd staff i ddiodydd ar 20 Mai 2020.

Mae’r Gweinidog Diogelu, Rachel Maclean, yn dweud bod canlyniadau i’r rhai sydd wedi torri’r gyfraith o ran cyfyngiadau coronafeirws.

Wrth siarad â BBC Politics Live ddoe (dydd Mercher 12 Ionawr), dywedodd fod “y gyfraith yn berthnasol i bawb… gan gynnwys y prif weinidog”.

“Mae’r bobol sy’n gwneud y cyfreithiau hefyd yn atebol i’r cyfreithiau hynny a dyna pam mae gennym y broses briodol hon o’r ymchwiliad hwn i ddarganfod beth yn union a ddigwyddodd, ac os torrwyd unrhyw gyfreithiau bydd canlyniadau.”

Dywedodd Brandon Lewis wrth raglen Today ar BBC Radio 4 heddiw (dydd Iau 13 ionawr) fod y Prif Weinidog yn “ddiffuant iawn, iawn” yn ei ymddiheuriad am yr hyn ddigwyddodd

“Mae’n cydnabod y dicter a’r gofid a’r rhwystredigaeth y mae pobl yn teimlo ar yr hyn maen nhw’n ei weld yn digwydd yn Rhif 10,” meddai Mr Lewis.

“Mae’n cydnabod hynny ac yn cymryd cyfrifoldeb.”

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, fod yn rhaid i’r prif weinidog roi’r gorau i’r hyn mae’n ei alw’n gelwyddau ac esgusodion “hurt”.

Fe wnaeth y Prif Weinidog dynnu allan o ymweliad arfaethedig â chanolfan frechu yn Sir Gaerhirfryn heddiw (dydd Iau 13 Ionawr) – lle byddai wedi wynebu cwestiynau gan y cyfryngau – oherwydd bod aelod o’r teulu wedi profi’n bositif am coronafeirws.

Darllen rhagor

Boris Johnson

Ymddiheuriad Boris Johnson yn “sarhaus”, meddai meddyg fu’n gweithio ym Mangor

Dr Saleyha Ahsan wedi colli ei thad yn ystod y cyfnod clo, ac wedi bod yn chwysu wrth weithio mewn cyfarpar diogelu personol (PPE) yn yr ysbyty
Boris Johnson

Boris Johnson yn “ymddiheuro o’r galon” am bartïon yn Downing Street

Jacob Morris

Ond Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dweud ei fod yn credu ei fod mewn digwyddiad gwaith

“Dw i’n ymddiried ynddo fe,” meddai Simon Hart am Boris Johnson

Ond mae Ysgrifennydd Cymru’n dweud nad yw Downing Street “yn lle hapus i fod”

Pwysau’n cynyddu ar Boris Johnson i ymddiswyddo

Huw Bebb

“Dyw Boris Johnson ddim yn berson ffit i fod yn brif weinidog”