Mae cyllid o £65m wedi cael ei gyhoeddi er mwyn rhoi cymorth i sefydliadau addysg i leihau eu hallyriadau carbon.
Daw hyn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd sero-net erbyn 2050.
Maen nhw eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i bob adeilad ysgol a choleg newydd gyrraedd y targedau carbon o’r mis yma.
Bydd y sectorau addysg bellach, addysg uwch a dysgu oedolion yn y gymuned i gyd yn derbyn arian o’r pecyn arian newydd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r pecyn hwnnw, bydd £46m yn cael ei roi i helpu darparwyr addysg ôl-16 a dysgu yn y gymuned i wella eu cysylltedd digidol a lleihau eu hôl troed carbon drwy wneud pethau fel gosod goleuadau LED a gosod mannau gwefru ceir trydan.
Bydd cyllid hefyd yn cael ei roi i ddatblygu deunyddiau dysgu am gyflawni sero-net, yn ogystal â deunyddiau sydd eu hangen mewn cyrsiau galwedigaethol, fel gwaith pren a gwaith metel.
‘Rôl bwysig i’w chwarae’
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth £8m o gyllid i sicrhau bod colegau addysg bellach yn gallu cynnal addysg wyneb yn wyneb yn ddiogel, a bydd ychydig o’r cyllid sydd wedi ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Ionawr 12) yn mynd tuag at gefnogi dysgwyr ôl-16 yn sgil y pandemig.
Bydd £10m hefyd yn cael ei ddarparu ar gyfer gweithgareddau ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch.
Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg, eu bod nhw fel llywodraeth “wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.”
“Mae gan ein colegau a’n prifysgolion rôl bwysig i’w chwarae yn yr ymdrech genedlaethol i gyrraedd Sero Net, fel cyflogwyr mawr ledled Cymru a chartrefi dysg y gweithwyr a fydd yn rhoi eu haddysg ar waith mewn proffesiynau sy’n galw am sgiliau uwch,” meddai.
“Mae colegau a phrifysgolion wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau bod dysgu yn parhau, gan gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel ar yr un pryd.
“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu £50m o gyllid ychwanegol ar gyfer addysg ôl-16 yn y flwyddyn ariannol nesaf.
“Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ein rhaglen Adnewyddu a Diwygio a gwneud beth bynnag a allwn i alluogi ein pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.”
‘Wedi dod ar adeg amserol’
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, fe wnaeth Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson, ddweud bod y cyllid “yn cael ei groesawu’n fawr ar adeg hanfodol.”
“Bydd y gefnogaeth ychwanegol ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn cael effaith bositif a gweladwy,” meddai.
“Mae’n bwysig bod Cymru ar flaen y gad mewn ymchwil ac arloesedd er mwyn y buddion cymdeithasol, iechyd, ac economaidd mae hyn yn ei ddarparu. Mewn byd sy’n newid, mae’r gweithgareddau hyn am fod yn bwysicach nag erioed.
“Ar yr un pryd, mae’r gefnogaeth i sefydliadau i leihau eu hôl-troed carbon wedi dod ar adeg amserol. Mae ein prifysgolion wedi gwneud cyfres o ymrwymiadau i gefnogi sero-net, gan gynnwys gosod targedau ar gyfer lleihau allyriadau a sicrhau bod y targedau hyn yn weladwy ar eu gwefannau.”