Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi codi “pryderon sylweddol” am gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, a Chwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw, wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn nodi barn Llywodraeth Cymru na ddylid gwanhau hawliau pobol.

Maen nhw’n dadlau bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn “hanfodol i ddemocratiaeth Cymru” ac na ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael gwared arni heb gydsyniad y Senedd.

“Rydym wedi bod yn glir ac yn gyson na fyddwn yn goddef unrhyw wanhau hawliau ac yn ystyried ei bod yn hanfodol bod y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang,” meddai Jane Hutt.

“Diogelu a hyrwyddo hawliau dynol yw ein blaenoriaeth o hyd a byddem yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynigion sy’n bygwth hynny.”

Y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw sy’n gyfrifol am faterion cyfansoddiadol, ac fe nododd ar wefannau cymdeithasol fod ganddo “bryderon sylweddol” ynghylch cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae gennym bryderon sylweddol ynghylch cynlluniau i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol gyda Bil Hawliau,” meddai ar Twitter.

“Byddwn yn gwneud popeth posibl i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.”

“Mae gennym bryderon sylweddol am gynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gwanhau hawliau, er enghraifft atal llys rhag diddymu is-ddeddfwriaeth benodol y canfuwyd ei bod yn anghydnaws â hawliau dynol person,” meddai mewn datganiad wedyn.

“Mae’n ymddangos bod yr ymgynghoriad yn codi materion o bwys o ran hygyrchedd i’r llysoedd, rheolaeth y gyfraith a rôl y llysoedd wrth gymhwyso’r gyfraith sy’n ymwneud â hawliau dynol.

“Mae yna fater cyfansoddiadol pwysig yn y fantol hefyd. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn hanfodol i ddemocratiaeth Cymru; rhaid i ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio yn y Senedd fod yn gydnaws â’r Ddeddf, felly rhaid i unrhyw gamau neu newid gael cytundeb holl ddeddfwrfeydd cenedlaethol y Deyrnas Unedig.”