Mae crwner yn dweud y bydd marwolaeth John Stevenson, cyn-newyddiadurwr y BBC, yn parhau’n ddirgelwch.
Cafwyd hyd i gorff y dyn 68 oed ger corff ei bartner ar lawr eu cartref yn Aberdâr ar Fawrth 12, 2020, gan heddlu oedd wedi gwthio’u ffordd i mewn i’r eiddo.
Roedd nyrs wedi mynegi pryderon ar ôl iddi fethu cael gafael ar John Stevenson na’i bartner Mark Turner.
Clywodd llys y crwner nad oedd union natur ei farwolaeth yn hysbys, ond mae hi’n debygol ei fod e wedi marw o ganlyniad i salwch yn dilyn strôc.
Cafwyd hyd i’w gorff fel pe bai’n eistedd ar lawr y lolfa oedd yn ystafell wely iddo, ac roedd corff ei bartner ar lawr â’i wyneb i waered yn ei ymyl.
Cafodd nifer o brofion eu cynnal fel rhan o archwiliad post-mortem, ond doedd dim modd dweud i sicrwydd sut y bu farw.
Yn ôl meddyg, roedd ei freichiau’n edrych fel pe bai e wedi ceisio codi ei bartner, ond doedd dim awgrym o drais na ffrwgwd ac fe wnaeth arbenigwyr wfftio’r posibilrwydd o wenwyn o ganlyniad i garbon monocsid a damwain drydanol.
Mae’r farwolaeth yn un nad oes esboniad ar ei chyfer, felly.
Cefndir
Clywodd y cwest fod John Stevenson, cyn-ohebydd gwleidyddol BBC Cymru, wedi ymddeol yn 2013 ac wedi symud o’r gogledd i Aberdâr yn 2017.
Dywedodd Bethan Price, ffrind a chyn-gydweithiwr iddo, mai ar Chwefror 26 y bu hi mewn cysylltiad â Mark Turner ddiwethaf.
Cafodd John Stevenson ail strôc yn 2017, ac fe ddirywiodd ei leferydd a’i symudedd, ac roedd ei bartner yn gofalu amdano’n llawn amser.
Dywedodd iddi decstio’i bartner ar Fawrth 8, ond na chafodd hi ateb.
Cysylltodd merch John Stevenson â hi ar Fawrth 13 yn dweud bod y ddau wedi marw.
Clywodd y cwest fod nyrs wedi mynd i’w cartref ar Fawrth 5 am apwyntiad cyffredin, ond na chafodd hi ateb.
Cafodd yr heddlu wybod wythnos yn ddiweddarach pan aeth hi yno heb gael ateb eto.
Dywedodd y crwner ei bod hi’n “debygol” fod John Stevenson wedi marw cyn Mawrth 12, ond nad oedd modd cadarnhau hynny.
Dywedodd ymhellach nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus, a’i bod hi’n debygol fod John Stevenson wedi marw’n naturiol.
Doedd dim tystiolaeth ynghylch natur marwolaeth Mark Turner.