Mae meddyg fu’n gweithio ym Mangor yn ystod y cyfnod clo ac a gollodd ei thad o ganlyniad i Covid-19, yn dweud bod ymddiheuriad Boris Johnson heddiw (dydd Mercher, Ionawr 12) yn “sarhaus”.
Mae Dr Saleyha Ahsan yn dweud ei bod hi’n credu bod swydd prif weinidog y Deyrnas Unedig yn “anghynaladwy”, ar ôl iddo ymddiheuro am bartïon yn Downing Street yn ystod cyfyngiadau clo pan nad oedd modd i bobol ymgynnull, nac ymweld â’u hanwyliaid mewn ysbytai am gyfnod helaeth.
Fe ddaeth i’r amlwg fod Boris Johnson wedi treulio 25 munud yng ngardd Downing Street mewn digwyddiad pan oedd staff yn cael eu hannog i ddod â’u halcohol eu hunain – ond fe ddywedodd ei fod yn credu ei fod yn ddigwyddiad gwaith a bod hawl i’w gynnal.
“Mor sarhaus”
Mae’r meddyg yn dweud ei bod hi’n chwysu mewn cyfarpar diogelu personol (PPE) yn y gwaith ar adeg y partïon, ond ei bod hi bellach wedi cymryd seibiant o’r gwaith i gwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Ac mae hi’n dweud bod yr awgrym fod angen parti i ddiolch i staff Downing Street “am weithio mor galed fel bod angen iddyn nhw fynd i gael amser allan a chynulliad ‘dewch â’ch alcohol eich hun’, mewn gwirionedd, mor sarhaus”.
“Does neb wedi gweithio’n galetach na gweithwyr rheng flaen y Gwasnaeth Iechyd,” meddai. “Neb, neb o gwbl a wnaethon ni ddim gwneud hynny.”
Mae hi’n dweud bod yr adroddiadau am ymddygiad y Llywodraeth eto fyth yn “drawmatig” a bod gweithwyr iechyd “yn teimlo fel eu bod nhw wedi cael eu sarhau”.
“Yr hyn mae’n ei wneud yw ein hatgoffa ni o’r hyn roedden ni’n ei wneud ar y pryd,” meddai.
“A beth oeddwn i’n ei wneud ym Mai 2020? Roeddwn i’n gwisgo PPE.
“Ie, roedd y tywydd yn gynnes. Ro’n i’n chwysu. Yn trio peidio llewygu bob tro roeddwn i’n mynd i’r ystafell haint mewn PPE llawn i weld claf oedd â Covid.
“Doedden ni ddim yn mynd allan yn y nos i ymgasglu fel cydweithwyr i gael diod.”
‘Ymateb gwan’
Ymunodd Dr Ahsan â grŵp sy’n rhoi cymorth i’r rhai sy’n galaru o ganlyniad i Covid-19 ar ôl iddi hithau golli ei thad, Ahsan-ul-Haq Chaudry, i’r feirws fis Rhagfyr y llynedd.
Mae hi’n dweud bod ymddiheuriad Boris Johnson yn ymateb “gwan”.
“Dw i’n credu ei fod e’n wan. Dw i’n credu ei fod e’n wael.
“Doedd e ddim yn cymryd perchnogaeth.
“Roedd ymhell o’r hyn y dylai fod wedi’i wneud, sef codi ei ddwylo, cyfadde’r hyn roedd e wedi’i wneud, cyfaddef ei fod e’n faich ac yn fwrn.
“A dw i’n credu ei bod hi ond yn deg nawr fod ei sefyllfa fel prif weinidog yn anghynaladwy.”