Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, yn dweud ei fod yn “ymddiried” yn Boris Johnson fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ond yn cyfaddef nad yw Downing Street “yn lle hapus i fod”.
Yn ystod cwestiynau Cymreig yn San Steffan, fe wnaeth e gydnabod dicter y cyhoedd ynghylch yr honiadau am bartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo, pan oedd y Deyrnas Unedig dan gyfyngiadau llym oedd yn atal pobol rhag ymgynnull, ac mae’n dweud y bydd angen “barnu” ynghylch beth sy’n digwydd nesaf.
“Mae pobol mewn penbleth ynghylch y straeon maen nhw wedi’u darllen a’r newyddion maen nhw wedi’i glywed,” meddai, gan bwysleisio bod angen aros am ragor o wybodaeth yn dilyn ymchwiliad gan Sue Gray i’r honiadau ynghylch Downing Street a Whitehall.
“Dw i ddim yn byw ar blaned arall,” meddai, wrth fynnu na fuodd e yn yr un o’r partïon/
“Rydyn ni i gyd yn cydymdeimlo’n llwyr ac yn deall y rhwystredigaeth yn llwyr ac mewn nifer o achosion, y boen a’r syfrdan mae straeon fel hyn yn ei achosi.
“Y peth diwethaf mae’r un ohonon ni ei eisiau – gan gynnwys y prif weinidog – yw ychwanegu at y boen mae Covid eisoes wedi’i hachosi i’r boblogaeth gyfan.
“Ein dyletswydd yw mynd at wraidd y mater a datrys beth sy’n wir a beth sydd ddim yn wir cyn gynted â phosib.”
‘Dw i’n ei adnabod yn ddigon da’
Serch hynny, mae Simon Hart yn mynnu bod ganddo fe ffydd yn Boris Johnson o hyd.
“Dw i’n gwybod, oherwydd dw i’n adnabod y boi, ei fod e mor awyddus ag unrhyw un i hyn gael ei ddatrys,” meddai.
“Bydd gennym ni ddigon o amser i gnoi cil ar gasgliadau Sue Gray ynghylch y peth hwn.
“Ond y gwir yw fy mod i wedi dod i’w adnabod e’n ddigon da… i allu dweud â hyder fy mod i’n ymddiried ynddo fe.”