Mae Boris Johnson yn cyfaddef iddo fynychu parti diodydd yn Rhif 10 yn ystod y cyfnod clo cyntaf, gan ddweud ei fod yno am 25 munud.

Wrth siarad yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan, fe ddywedodd ei fod yn cynnig “ymddiheuriad o’r galon”, ond ei fod yn credu ei fod mewn ddigwyddiad gwaith.

Mae arweinydd Llafur, Keir Starmer yn dweud y dylai’r prif weinidog “wneud y peth iawn ac ymddiswyddo”.

Fe ychwanegodd ei fod yn “hurt” fod y Prif Weinidog wedi awgrymu nad oedd “yn sylweddoli ei fod mewn parti ar y pryd”.

Daw hyn ar ôl i dystion ddweud bod y Prif Weinidog a’i wraig Carrie Johnson, ynghyd â thua 30 o bobol eraill, mewn digwyddiad yn Rhif 10 ym mis Mai 2020.

Mae Rhif 10 yn dweud ei fod yn aros am ganlyniadau ymchwiliad sy’n cael ei arawian gan y gwas sifil, Sue Gray.

Sesiwn holi’r Prif Weinidog

“Wrth edrych yn ôl, dylwn fod wedi anfon pawb nôl y tu mewn, dylwn fod wedi dod o hyd i ryw ffordd arall o ddiolch iddyn nhw, a dylwn fod wedi cydnabod – hyd yn oed pe allwn ddweud, yn dechnegol ein bod yn gweithredu o fewn y canllawiau – y byddai miliynau a miliynau o bobl na fyddai’n ei weld felly,” meddai Boris Johnson yn San Steffan yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog.

Ond mae Syr Keir Starmer wedi ymateb drwy ddweud bod Boris Johnson, “y llanast pathetig o ddyn”, yn gyfrifol am “fisoedd o dwyll ar ôl twyll”.

“Ar ôl misoedd o dwyll ar ôl twyll, mae’r llanast pathetig o ddyn sydd wedi rhedeg allan o’r ffordd,” meddai arweinydd yr wrthblaid.

“Ei amddiffyniad … nad oedd yn sylweddoli ei fod mewn parti mor hurt fel ei fod yn sarhaus i’r cyhoedd ym Mhrydain.

“Mae wedi cael ei orfodi o’r diwedd i gyfaddef beth oedd pawb yn ei wybod, pan gafodd y wlad gyfan ei chloi i lawr roedd yn cynnal partïon meddwol yn Downing Street.”

Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson ei fod “am ailadrodd fy mod yn meddwl ei fod yn ddigwyddiad gwaith ac mae’n flin iawn gennyf na wnaethom bethau’n wahanol y noson honno.

“Rwy’n cymryd cyfrifoldeb ac rwy’n ymddiheuro. Ond o ran ei bwynt gwleidyddol, nid wyf yn credu y dylai achub y blaen ar ganlyniad yr ymchwiliad. Bydd ganddo gyfle pellach, gobeithio, i’m holi cyn gynted â phosibl.”

Gofynnodd Keir Starmer wedyn, “Pam fod y Prif Weinidog yn meddwl nad yw’r rheolau’n berthnasol iddo?”

Fe gyfeiriodd at yr achos y cyn-ysgrifennydd iechyd, Matt Hancock, a dorrodd y rheolau ac yn sgil hynny fe ymddiswyddodd.

“Dywedodd y Prif Weinidog bryd hynny ei fod [Matt Hancock] yn iawn i wneud hynny,” meddai.

“Pan chwarddodd llefarydd y Prif Weinidog [Allegra Stratton] am y rheolau’n cael eu torri, fe ymddiswyddodd hithau a derbyniodd y Prif Weinidog yr ymddiswyddiad hwnnw.

“Pam fod y Prif Weinidog yn dal i feddwl nad yw’r rheolau’n berthnasol iddo?”

Ymateb Plaid Cymru ac eraill

Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Arfon, hefyd wedi galw am ymddiswyddiad y Prif Weinidog.

“Unig ymateb Johnson ydy ailadrodd ymddiheuriad (o fath) a hawlio dylid disgwyl am ganlyniad ymchwiliad Sue Gray,” meddai Hywel Williams.

“Na. Ymddiswyddiad yw’r unig ymateb boddhaol.”

Dywedodd Ian Blackford, arweinydd yr SNP, yn sgil parti diodydd Downing Street fod ymddiriedaeth y cyhoedd yn y Prif Weinidog wedi’i cholli ac na fydd y cyhoedd yn maddau na chwaith yn anghofio.

Rhaid i aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr weithredu i gael gwared arno, meddai.

Gwnaeth aelodau seneddol Ceidwadol osgoi’r pwnc, gan ofyn cwestiynau ar faterion gwahanol gan gynnwys prinder staff mewn ysbytai.

Neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 11), awgrymodd Guto Harri, cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Boris Johnson, ar raglen Newsnight y dylai’r Prif Weinidog gynnig ymddiheuriad.

Beth oedd y rheolau?

Yn ôl canllawiau’r llywodraeth ar gyfer Lloegr ar 20 Mai 2020, roedd hawl cynnal digwyddiadau cyhoeddus yn y gweithle, dim ond oes hynny’n gwbl hanfodol.

Nododd y cyfyngiadau y dylai “gweithwyr geisio lleihau’r holl gyfarfodydd a digwyddiadau eraill yn y gweithle”.

Roedden nhw hefyd yn dweud y dylid “lleihau’r nifer y bobl rydych chi’n treulio amser gyda nhw mewn lleoliad gwaith”.

Bydd yr ymchwiliad dan arweiniad Sue Gray yn ymdrin â’r honiadau diweddar yng ngardd Downing Street ar Fai 20, yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf.

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn edrych ar y partïon Nadolig yn Rhif 10 ar Ragfyr 18, 2020 – gan gynnwys nifer o ddigwyddiadau honedig eraill digwydd oedd yn torri rheolau.

Dadansoddiad Jacob Morris:

Boris Johnson

Déjà vu!

Er cymaint mae dyn yn ystyried Boris Johnson yn wleidydd anghonfensiynol, ei arf bennaf i bob pwrpas, mae gweld sgandal ar ôl sgandal yn siŵr o brofi’n heriol i’r Tori ffyddlonaf.

Bellach mae’n rhan o’r drefn wythnosol. Sïon ar Twitter am barti… arall, yna fe ddaw’r ffeithiau cadarn i’r wyneb ac o fewn oriau, mae’n brif stori newyddion.

Ond go brin oedd Boris Johnson yn disgwyl i’r hangofyr ei daro flwyddyn yn ddiweddarach… ac er tegwch, mae e wedi cael ei siâr o hangofyrs gwleidyddol ar hyd y blynyddoedd!

Ni wedi bod fan hyn o’r blaen. Sôn am barti yn Rhif 10, y Prif Weinidog yn mynd gerbron y siambr ac aelodau’r wrthblaid (a meinciau’r llywodraeth) yn awchu am atebion. A gwelwn Boris yn ôl ei arfer yn cilwenu, yn ceisio rhoi perfformiad lliwgar i’r siambr. Ond, efallai nid ar y Prif Weinidog ddylai’r ffocws fod fan hyn ond yn hytrach, ar y wynebau rheiny y tu ôl i’r Prif Weinidog yn y siambr heddiw. Ei braidd ei hun. A rhyfedd fod y rhan fwyaf ohonynt yn gwisgo gorchudd wyneb heddiw… Ond ta waeth, gyda nhw mae’r gair olaf. A dyw’r ffyddlondeb rhwng Boris a’i aelodau erioed wedi bod dan gymaint o straen. Felly, pa mor hir all y dynion yn y siwtiau llwydion oddef cyn troi eu cyllyll am eu harweinydd? Pryd fydd y praidd yn cefnu ar y bugail? Mae dyn yn amau nad dyma ddiwedd y sgandalau, ac fe welwn PMQ’s tebyg eto yn y dyfodfol.

A daw y dydd, efallai’n fuan iawn, pan fydd helyntion Boris yn achosi un déjà vu yn ormod i’w feinciau ei hun…