Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi’i benodi’n ail Aelod Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru.

Daw hyn wrth i Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ad-drefnu ei gabinet cysgodol “yn barod i wneud gwahaniaeth go iawn” yn 2022.

Mae Heledd Fychan bellach yn gyfrifol am Blant a Phobol Ifanc, y Gymraeg, Diwylliant, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol.

Sioned Williams fydd â chyfrifoldeb am Addysg ôl-16, Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, tra bydd Mabon ap Gwynfor yn gyfrifol am Amaethyddiaeth, Materion Gwledig, Tai a Chynllunio.

Mae Siân Gwenllian yn Brif Aelod Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithredu ers mis diwethaf.

Yn ôl Adam Price, mae Cefin Campbell yn wleidydd “rhagorol” a “phrofiadol” a fydd yn cyfrannu at sicrhau bod y Cytundeb Cydweithredu’n cael ei gyflawni’n llwyddiannus.

Yn ôl Cefin Campbell, mae’n “anrhydedd a braint” cael ei wahodd i fod yn Aelod Dynodedig, wrth i Adam Price bwysleisio bod Cymru’n wynebu “sawl her” eleni yn sgil y pandemig Covid-19, yr argyfwng hinsawdd a chostau byw yn codi, a Llywodraeth San Steffan “elyniaethus”.

Ond mae’r arweinydd yn mynnu bod ei blaid yn “barod i ymateb i’r heriau hynny yn uniongyrchol”.

‘Blynyddoedd o brofiad’

“Rwy’n falch o benodi Cefin Campbell yn ail Aelod Dynodedig terfynol o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru,” meddai Adam Price.

“Mae Cefin yn wleidydd eithriadol gyda blynyddoedd o brofiad dan ei felt. Bydd ef a Sian Gwenllian yn rhan o dîm a fydd yn gweithio gyda’r Llywodraeth i fwrw ymlaen â’r Cytundeb Cydweithredu er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus.

“Mae’n addas cyhoeddi rôl newydd Cefin yn ystod wythnos gyntaf tymor newydd y Senedd.

“O’r pandemig, yr argyfwng newid hinsawdd, twf mewn costau byw a Llywodraeth elyniaethus yn San Steffan, mae Cymru’n dechrau 2022 gyda sawl her o’n blaenau.

“Mae Plaid Cymru yn barod i ymateb i’r heriau hynny yn uniongyrchol ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru drwy’r Cytundeb Cydweithredu a fydd yn sicrhau cefnogaeth drawsnewidiol i rai o’n cartrefi tlotaf.”

‘Rhaglen radical a thrawsnewidiol’

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd i gael fy ngwahodd i fod yn Aelod Dynodedig fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu cyffrous a thrawsnewidiol hwn rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru,” meddai Cefin Campbell.

“Mae’r Cytundeb Cydweithredu yn rhaglen radical a thrawsnewidiol a fydd yn dod â manteision gwirioneddol a hirdymor i bobl Cymru — gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Mae’n gyfle go iawn ar gyfer ffordd newydd o wneud gwleidyddiaeth.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’m cyd-aelod dynodedig Sian Gwenllian a Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac rwy’n addo gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod y cytundeb a’i 46 maes polisi yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus.”