Mae Dug Caererfrog, y Tywysog Andrew, yn mynd i wynebu achos llys yn dilyn honiadau ei fod e wedi ymosod yn rhywiol ar Virginia Giuffre pan oedd hi’n blentyn, ar ôl i farnwr benderfynu y gallai’r achos sifil fynd rhagddo.

Roedd cyfreithiwr yr aelod o’r teulu brenhinol wedi dadlau y dylid gwrthod yr achos, gan honni bod Virginia Giuffre wedi ildio’r hawl i ddwyn achos drwy lofnodi setliad cyfrinachol gyda Jeffrey Epstein, y dyn busnes oedd wedi’i garcharu am droseddau rhyw yn erbyn plant.

Daw’r dyfarniad yn fuan ar ôl i Balas Buckingham gyhoeddi manylion Jiwbilî Platinwm ei fam, Brenhines Lloegr, ond mae’r achos hwn bellach yn debygol o fod yn gysgod dros y cyfan wrth i’r llys glywed tystiolaeth yn erbyn y tywysog yn yr hydref.

Mae disgwyl i’r achos siglo’r teulu i’w seiliau, pan fydd llygaid y byd ar Efrog Newydd, ond mae enw da’r tywysog eisoes yn deilchion o ganlyniad i’w gyfeillgarwch ag Epstein, ac mae e wedi camu’n ôl o fywyd cyhoeddus i raddau helaeth yn sgil cyfweliad ar raglen Newsnight y BBC yn 2019.

Mae lle i gredu y bydd Virginia Giuffre yn ceisio miliynau o ddoleri o iawndal gan y tywysog, wrth iddi ddadlau ei bod hi wedi cael ei masnachu gan Jeffrey Epstein i gael perthynas rywiol anghyfreithlon â’r tywysog pan oedd hi’n dal yn ei harddegau.

Mae’r tywysog wedi gwadu’r honiadau o’r cychwyn cyntaf, ac mae ei gyfreithwyr yn dadlau nad oes sail iddyn nhw.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd yn rhaid iddo roi tystiolaeth i’r gwrandawiad wyneb yn wyneb, trwy gyswllt fideo neu, yn wir, a fydd angen iddo fe fod yno o gwbl.

Dywedodd Ms Giuffre ei bod yn “falch” bod ymgais y Tywysog Andrew i gael yr achos wedi’i wrthod wedi methu ac “y bydd tystiolaeth nawr yn cael ei chlywed yn ymwneud â’i honiadau yn ei erbyn”.

Ychwanegodd datganiad a gyhoeddwyd gan ei chyfreithiwr, David Boies: “Mae hi’n edrych ymlaen at benderfyniad barnwrol ar rinweddau’r honiadau hynny.”

Cafwyd Ghislaine Maxwell, cyn-gariad Jeffrey Epstein, yn euog o drefnu merched yn eu harddegau er mwyn iddo gael perthynas â nhw.

Darllen rhagor

Cyhoeddi dogfen gytundeb rhwng Virginia Giuffre a Jeffrey Epstein

Mae cyfreithiwr Ms Giuffre, David Boies, yn credu bod y setliad yn “amherthnasol i’r achos yn erbyn y Tywysog Andrew”.

“Rhaid dal eraill yn atebol” ar ôl canfod Ghislaine Maxwell yn euog o fasnachu rhyw

“Ni wnaeth Maxwell ymddwyn ar ei phen ei hun,” meddai Virginia Giuffre, sy’n honni ei bod hi wedi cael ei gorfodi i gael rhyw gyda’r Tywysog Andrew