Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru’n gwneud digon i helpu teuluoedd sydd ag anwyliaid yn byw â dementia mewn cartrefi gofal.

Mae Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, yn galw am newid y gyfraith i wneud ymweliadau â chartrefi gofal yn hawl dynol.

Dywed ei bod yn poeni efallai na fydd hi’n gallu ymweld â’i mam pan fydd hi’n cael ei symud o’r ysbyty i gartref gofal.

Mae hi’n gofyn am fwy o eglurder i’w roi i gartrefi gofal am eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Hawliau Dynol a Chydraddoldeb.

Yn ddagreuol yr wythnos ddiwethaf, soniodd am ddiagnosis dementia ei mam cyn y Nadolig, wrth iddi siarad ar lawr siambr Tŷ’r Cyffredin.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai darparwyr gefnogi ymweliadau dan do arferol mewn ffordd ddiogel sy’n ystyried yr holl risgiau posibl.

Ychwanegodd llefarydd y gall preswylwyr barhau i dderbyn ymweliadau dan do gan eu “hymwelydd hanfodol” enwebedig os bydd achos o Covid mewn cartref.

Daw hyn wrth ymateb i sylw ar y gwefannau cymdeithasol gan ddynes yn sôn ei bod yn methu ag ymweld â’i gŵr mewn cartref gofal.

“Mae’n ddrwg gennyf ddarllen am eich gŵr, Jenny,” meddai Liz Saville Roberts ar ei chyfrif Twitter.

“Nid yw’n ateb digonol gan @Eluned_Morgan [Gweinidog Iechyd Cymru] i ddweud y gall atebolrwydd yswiriant perchnogion cartrefi preifat godi uwchlaw lles a pholisi cyhoeddus pobol.

“Ni ddylai ‘gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn’ fod yn slogan gwag.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywed Llywodraeth Cymru fod y canllawiau’n glir, a’u bod nhw wedi darparu lefelau sylweddol o gyllid i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol i oedolion drwy gydol y pandemig.

Maen nhw’n ychwanegu eu bod yn gweithio gyda llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig i ddod o hyd i atebion i’r materion ehangach sy’n wynebu’r sector, gan gynnwys premiymau cynyddol ac anhawster sicrhau yswiriant ar gyfer Covid.

Er bod rheolau Covid yn caniatáu ymweliadau, dywed Liz Saville Roberts fod llawer o’i hetholwyr wedi sylweddoli nad oedden nhw’n gallu gweld eu hanwyliaid, ac mae hi’n ofni y bydd ei mam “yn debygol o gael ei gwahanu am gyfnod amhenodol pan fydd hi’n cael ei symud i gartref nyrsio”.

Liz Saville-Roberts yn ddagreuol yn ei phle emosiynol yr wythnos ddiwethaf i roi’r goran i ‘ynysu a gwahanu’ pobl â dementia

“Rydyn ni wedi mynd drwy’r cyfnod yma o golli fy mam yn gyson, dros y flwyddyn ddiwethaf, a dyma ni gyda Omicron a’r bygythiad roedden ni’n mynd i golli staff iechyd a gorfod cau llefydd i lawr, a’r cartrefi gofal yn dweud y bydd yn rhaid i ni gau ein drysau i ymwelwyr,” meddai.

“Ac roeddwn i’n meddwl, rydyn ni wedi cael dwy flynedd o Covid nawr, siawns nad yw hyn yn iawn, siawns bod hawl ddynol sylfaenol i ddioddefwyr dementia, i bobl sydd â nam gwybyddol weld eu teuluoedd, ac i’r teuluoedd weld eu hanwyliaid hefyd – ac na, does dim.

“Does gan rywun sydd â dementia ddim hawliau dynol i weld eu teuluoedd. Mae gan grwpiau eraill hawliau, ond ni yw un o’r grwpiau yr effeithiwyd arnynt fwyaf yn ystod cyfnod Covid, a chredaf, mewn gwirionedd, fod yn rhaid i ni newid hynny.”

Ychwanega fod dementia yn gyflwr sydd yn lladd pobol, ac y gallai ynysu olygu bod y cyflwr yn gwaethygu.

Ers Nadolig 2020, mae ffigyrau Cymdeithas Alzheimer Cymru yn dangos bod 60% o bobol â dementia yn llai tebygol o adnabod aelodau o’r teulu, gyda 29% yn ei chael hi’n fwy anodd bwyta, a dywedodd 35% ei bod hi’n fwy anodd cerdded.

Yn ôl adroddiad gan Lancet fis Gorffennaf, mae’n ymddangos bod 54% o breswylwyr mewn cartrefi gofal wedi gwaethygu, yn dilyn arolwg ar-lein sy’n cael eu gweinyddu gan roddwyr gofal.

 

AS Plaid Cymru’n yn emosiynol ar lawr y siambr gan alw am roi’r gorau i ‘ynysu a gwahanu’ pobl â dementia

Jacob Morris

Yn ddagreuol ar lawr y siambr yn ystod Cwestiynau’r Prif Weiniog fe soniodd Liz Saville-Roberts am ei phrofiad personol gyda diganosis dementia ei mam