Mae Andrew RT Davies yn dweud ei fod yn “falch” bod Trysorlys y Deyrnas Unedig wedi “gwrthod” cais Llywodraeth Cymru am gyllid pellach i fynd i’r afael â’r pandemig.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y penderfyniad gan Lywodraeth Boris Johnson wedi atal Mark Drakeford rhag gweithredu “agenda sosialaidd wrth-wyddoniaeth”.

Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi dweud bod gallu Cymru i gyflwyno cyfyngiadau pellach i ymdrin ag effeithiau Omicron wedi ei gyfyngu gan y Trysorlys, sy’n gyndyn i roi mwy o arian i Gymru.

Ychwanegodd Mark Drakeford nad yw hi’n “deg” fod gweinidogion sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer Lloegr yn gwybod y byddai arian ar gael tra nad oedd yr un peth yn wir yng Nghymru.

‘Falch iawn’

Fe gyfeiriodd Andrew RT Davies at effaith y pandemig ar restrau aros am driniaethau canser.

“Ni allwn barhau â rhestrau aros cynyddol a diagnosisau canser a gollwyd,” meddai.

“Ni allwn barhau â busnesau sy’n gorfod cau gan eu gorfodi i droi at y wladwriaeth am gymorth, oherwydd gwyddom faint o sosialwyr sydd wrth eu bodd yn cael pobl yn nwylo’r wladwriaeth.

“Yr wyf yn falch iawn bod y Trysorlys wedi gwrthod cytuno i gais [Mark] Drakeford eu bod yn ariannu ei agenda sosialaidd wrth-wyddoniaeth.

“Yn wir, mor gryf yw gwrthwynebiad Llafur Cymru i fusnes preifat fel bod gan eu gweinyddiaeth reol lle gallwch gael dirwy am fynd i’r gwaith ond gallwch eistedd yn y dafarn drwy’r dydd a gwylio’r teledu.”

Ddoe (Ionawr 11), fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai’r Llywodraeth yn edrych ar lacio cyfyngiadau Covid-19 cyn yr adolygiad yr wythnos nesaf.

“I’r rhai sydd heb wneud hynny eto, byddwn yn argymell yn gryf bod darllenwyr yn edrych ar erthygl Sajid Javid yn y Daily Mail o fis Rhagfyr ymlaen,” meddai Andrew RT Davies wedyn.

“Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd [yn Lloegr], a hynny’n briodol, fod cyfyngu ar ein rhyddid fod yn ddewis olaf, ac ychwanegodd fod pobl Prydain yn disgwyl i wleidyddion wneud popeth y gallant ei wneud i’w hosgoi.”

Fis Hydref 2020, fe wnaeth Trysorlys y Deyrnas Unedig wrthod cais gan Mark Drakeford i ymestyn y cynllun ffyrlo i Gymru pan aeth y wlad i gyfnod atal byr.

Cafodd y cynllun ffyrlo ei ymestyn yn ddiweddarach yng Nghymru ar ôl i Loegr fynd i gyfnod clo ei hun.

Llywodraeth Cymru yn “edrych” ar y posibilrwydd o lacio cyfyngiadau Covid-19

Daw hyn yn dilyn sylwadau Prif Weinidog Cymru yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog sydd wedi’u cynnal am y tro cyntaf eleni
Pen ac ysgwydd ar gefndir gwyn

Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ddileu’r “rheol chwech” a chadw pellter

Dywed y blaid fod y rheolau’n “economaidd greulon ac yn glinigol ddiangen”