Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r “rheol chwech” a chadw pellter o ddwy fetr oddi wrth bobol eraill, gan fynnu bod y rheolau’n “economaidd greulon ac yn glinigol ddiangen”.

Mae’r rheolau’n cael eu hadolygu’n wythnosol ar hyn o bryd o ganlyniad i’r cynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Omicron, ac mae’r rhai mwyaf llym yn cael effaith niweidiol ar fusnesau, yn ôl yr wrthblaid yn y Senedd.

Dywedodd UK Hospitality Cymru eisoes y byddai busnesau “yn y fantol” oni bai bod arian ychwanegol ar gael a llai o gyfyngiadau yn eu lle, wrth i dafarnau a bwytai ofni y gallai’r tawelwch llethol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd arwain at orfod cau busnesau a cholli swyddi.

Fe fu Llywodraeth Cymru dan y lach yn ddiweddar am fethu â sicrhau arian ychwanegol i fusnesau lletygarwch sy’n teimlo’r esgid yn gwasgu o ganlyniad i’r cyfyngiadau, ac mae rhai yn dadlau nad oes angen y cyfyngiadau llymach gan fod sefyllfa’r feirws yng Nghymru’n wahanol iawn i Loegr.

‘Eithriadol o niweidiol’

“Rydym yn deall pam fod gweinidogion wedi teimlo bod angen iddyn nhw gyflwyno cyfyngiadau i gyfyngu ar ymlediad amrywiolyn trosglwyddadwy iawn, felly mae’n bositif gweld tystiolaeth yn dangos bod y perygl o fynd i’r ysbyty yn is o ran yr amrywiolyn Omicron nag o ran Delta,” meddai Paul Davies, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Fodd bynnag, dywedodd Mark Drakeford na ddylai cyfyngiadau aros yn eu lle funud yn fwy nag sydd angen.

“Rydym yn credu bod y trothwy hwn yn sicr wedi’i gyrraedd ar gyfer rhai o’r rhain, yn enwedig gan fod dros 1.7m o bobol yng Nghymru bellach wedi cael eu brechlyn atgyfnerthu.

“Tra bod gwisgo mygydau dan do mewn llefydd cyhoeddus a chlybiau nos yn aros ynghau yn briodol am y tro, mae cadw pellter o ddwy fetr a’r rheol chwech yn eithriadol o niweidiol i fusnesau lletygarwch sydd eisoes wedi colli allan wrth i niferoedd uchel o gwsmeriaid hunanynysu dros y Nadolig.

“Nid yn unig y dylai’r Prif Weinidog ddileu’r cyfyngiadau economaidd greulon a chlinigol ddiangen hyn, ond mae angen iddo gyhoeddi map ffordd allan o’r cyfyngiadau, gan ddangos y meini prawf ar gyfer pob cam o ddatgloi’r gymdeithas, agor yr economi, ac adfer hawliau Prydeinwyr sydd wedi’u geni’n rhydd.”

Ymateb

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd y llywodraeth yn edrych ar lacio cyfyngiadau Covid-19 cyn yr adolygiad yr wythnos nesaf.

Ond mae Mark Drakeford yn mynnu bod hyn yn ddibynnol ar y cyngor gwyddonol wrth i Gymru barhau i fod yng nghanol “storm Omicron”.

“Yr wythnos nesaf fydd diwedd y cyfnod adolygu tair wythnos,” meddai.

“Os ydym yn ffodus iawn, ac mae’n ‘os’ mawr iawn, ac rydym yn canfod ein bod wedi pasio’r brig hwnnw a bod gostyngiad dibynadwy mewn achosion, yna byddwn yn edrych i weld beth gallwn ei wneud, fel y dywedais, wrth lacio rhai o’r cyfyngiadau sydd ar waith.

“Ond ni wnawn hynny nes ein bod yn hyderus bod y cyngor gwyddonol a meddygol yn caniatáu ei fod yn ddiogel i symud ymlaen gyda hynny.”