Mae Angela Rayner wedi ymateb i feirniadaeth o’i hacen a’i gramadeg drwy ailadrodd ei neges nad yw Boris Johnson yn “ffit” i fod yn brif weinidog y Deyrnas Unedig.
Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan wedi bod yn cynnal cyfweliadau ar y cyfryngau wrth i helynt Boris Johnson a phartïon Downing Street rygnu ymlaen.
Roedd hi’n wynebu’r posibilirwydd o gynrychioli’r blaid yn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Ionawr 12) cyn bod cadarnhad y byddai Syr Keir Starmer yn dychwelyd ar ôl bod yn hunanynysu o ganlyniad i Covid-19.
Yn dilyn cyfres o sgyrsiau radio, mae cryn drafod ar ddefnydd ei ddirprwy o iaith a gramadeg, a hithau’n siarad ag acen ogleddol ac yn defnyddio’r dafodiaith sy’n gyffredin yn ardal Stockport ger Manceinion lle cafodd ei geni.
Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywedodd Angela Rayner nad oedd hi wedi cael addysg yn Eton, a’i bod hi wedi’i magu yn Stockport fel bod ganddi foesau.
“Dw i wedi bod ar y cyfryngau fore heddiw, felly mae fy acen a gramadeg yn cael eu beirniadu,” meddai ar Twitter.
“Ches i mo fy addysgu yn Eton, ond o gael fy magu yn Stockport, dysgwyd i fi onestrwydd, uniondeb a gwedduster,” meddai.
“Does dim ots sut rydych chi’n ei ddweud e. Dydy Boris Johnson ddim yn ffit i arwain.”