Mae pentref yn y gogledd wedi cyrraedd brig un o restrau blynyddol gwefan eiddo Rightmove ar gyfer 2021.
Llandrillo-yn-Rhos oedd y cyrchfan welodd y cynnydd mwyaf yn y chwiliadau am eiddo ar gyfer y flwyddyn – 858% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.
Mae gan y pentref yn sir Conwy boblogaeth o 7,593 a phris cyfartalog tŷ yn yr ardal yw £228,337 yn ôl Rightmove.
Yn ôl y cwmni, mae’r patrymau chwilio yn dangos “newid yn newisiadau prynwyr”, gydag ardaloedd gwledig yn dod yn fwy poblogaidd yn ystod y pandemig.
Er mai Llundain oedd y rhanbarth mwyaf poblogaidd o ran chwiliadau erbyn diwedd y llynedd, mae’n debyg bod Cernyw wedi eu pasio ar sawl achlysur y llynedd.
Roedd pob un o’r 10 lleoliad a welodd y cynnydd mwyaf mewn chwiliadau hefyd wedi eu lleoli yng nghefn gwlad neu ar lan y môr.
Dyma’r rhestr yn llawn:
- Llandrillo-yn-Rhos, sir Conwy
- Hove, Dwyrain Sussex
- Chadlington, Swydd Rydychen
- Breage, Cernyw
- Ynys Manaw
- Frizington, Cumbria
- Huntly, Sir Aberdeen
- Millport, Sir Ayr
- Thorpeness, Suffolk
- Allonby, Cumbria
Sefyllfa ail gartrefi
Mae rhai yn pryderu bod y sefyllfa dai yn sir Conwy yn argyfwng bellach.
Fe wnaeth y Cyngor wyrdroi’r penderfyniad i godi’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi i 50%, a chadw’r premiwm presennol o 25% yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Bwriad y premiwm yw annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chefnogi’r cynnydd mewn tai fforddiadwy mewn cymunedau lleol.
Mae’r premiwm treth cyngor eisoes wedi ei godi i 100% gan gynghorau Gwynedd a Sir Benfro, ac mae Cyngor Ynys Môn hefyd wedi argymell codi eu premiwm presennol ymhellach.
Mae’n debyg bod 1,181 o ail gartrefi wedi eu cofrestru yn Sir Conwy yn 2021/22, sydd yn 5% o holl ail gartrefi Cymru, ac mae hynny’n gwthio prisiau tai i fyny.
Roedd prisiau tai cyfartalog yn y sir wedi codi i dros £227,000 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni, gyda phris cyfartalog tŷ teras hyd yn oed yn uwch na £200,000, yn ôl Cymdeithas Adeiladu Principality.