Mae grŵp ymgyrchu Dyfodol yr Iaith yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o gynnig “swm pitw” o arian i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru glustnodi £11m i brynu ac adfer tai mewn ardal beilot yn Nefyn yn ogystal â chefnogi cymunedau ar draws Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw hefyd am gyflwyno cyfres o fesurau i liniaru’r broblem.
Ond yn ôl Dyfodol i’r Iaith, fe fyddai’r arian sydd wedi’i glustnodi yn cyfateb i brynu neu godi dim ond 44 o dai.
Mae’r grŵp ymgyrchu yn galw ar y Llywodraeth i glustnodi £200m er mwyn adeiladu neu brynu 800 o dai i ymateb i’r galw yn y cymunedau sydd wedi’u heffeithio fwyaf.
Arian ar gyfer 800 o dai?
“Barn Dyfodol i’r Iaith yw bod angen gweithredu sylweddol ar frys,” meddai’r mudiad mewn datganiad.
“Mae cynnig ariannol presennol y Llywodraeth yn cyfateb yn fras i brynu neu godi 24 o dai, swm pitw o ystyried maint yr argyfwng.
“Mae Cynog Dafis, aelod o Fwrdd Dyfodol i’r Iaith, wedi llunio adroddiad sy’n amlinellu’r hyn sydd angen o safbwynt cyllid a chamau gweithredu er mwyn mynd i’r afael o ddifrif ag argyfwng cartrefi mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymdeithasol fyw.
“Mae’r adroddiad yn argymell dull newydd o ddefnyddio’r diwydiant twristiaeth i greu ffrwd incwm ychwanegol er mwyn darparu cartrefi i bobl leol a hybu’r economi.
“Mae Dyfodol yn galw ar Lywodraeth Cymru i glustnodi £200m o gyfalaf i’w gwario’n bennaf yn yr ardaloedd gorllewinol (Môn, Gwynedd, Ceredigion, Sir Benfro a Chaerfyrddin) lle mae’r argyfwng tai ar ei fwyaf dwys a’r effaith niweidiol ar yr iaith Gymraeg i’w theimlo gryfaf.
“A siarad yn fras fe alluogai hyn i 800 o gartrefi gael eu prynu neu eu codi.”
‘Pwnc cymhleth’
“Rydym wedi ymroi i ddelifro 20,000 o dai cymunedol, carbon-isel, safon uchel, i’w rhentu yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth ymateb.
“Ar ben hynny, rydyn ni wedi darparu £5m ychwanegol y flwyddyn, sy’n dod â’r cyfanswm i £11m yn y flwyddyn ariannol hon yn unig i awdurdodau lleol lle mae cymunedau wedi eu heffeithio gan berchnogaeth ail-gartrefi a llety gwyliau, fel eu bod yn gallu prynu ac adfer tai gwag.
“Fe fyddwn ni’n monitro llwyddiant hyn yn agos.
“Mae hwn yn bwnc cymhleth a does dim ateb syml, dyna pam rydyn ni’n cyflwyno pecyn o fesurau i weld beth fydd fwyaf effeithiol wrth warchod bywiogrwydd cymunedau Cymru.”