Mae Clwb Criced Swydd Efrog wedi gwneud digon o ymdrech i ddatrys yr helynt hiliaeth fel eu bod nhw’n haeddu cael yr hawl yn ôl i gynnal criced rhyngwladol, yn ôl y chwaraewr oedd wedi gwneud honiadau amdanyn nhw.
Roedd honiadau Azeem Rafiq, fu’n chwarae i’r sir yn ystod dau gyfnod ers 2007, wedi arwain at ddiswyddo’r tîm hyfforddi ac ymadawiadau’r cadeirydd Roger Hutton a’r prif weithredwr Mark Arthur.
Yn sgil y ffrae, aeth Rafiq i San Steffan i gyflwyno tystiolaeth i bwyllgor o aelodau seneddol, gyda chadeirydd newydd, yr Arglwydd Kamlesh Patel, wedyn yn cael ei ethol i’r rôl i fynd i’r afael â’r helynt.
Mae disgwyl i Bwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi adroddiad ar sail ei dystiolaeth ddydd Gwener (Ionawr 14).
Roedd Headingley, cartref Swydd Efrog, wedi ennill yr hawl i gynnal gêm brawf yn erbyn Seland Newydd ym mis Mehefin, a gêm undydd yn erbyn De Affrica y mis canlynol.
Mae Rafiq yn dweud ei fod e am i’r gemau hynny gael eu cynnal yn y cae yn Leeds.
‘Cam i’r cyfeiriad cywir’
“Ar ddechrau hyn i gyd, roeddwn i’n credu y dylid tynnu criced rhyngwladol oddi arnyn nhw,” meddai Azeem Rafiq am ei gyn-gyflogwyr wrth ysgrifennu yn y Daily Mail.
“Ond maen nhw wedi gwneud digon fel eu bod nhw’n haeddu ei gael yn ôl, am y tro o leiaf.
“Dw i eisiau gweld Lloegr yn chwarae yn Headingley yr haf hwn. Mae’n bosib yr af fi yno fy hun, hyd yn oed.
“Fe fu’n gorwynt ers i fi ymddangos gerbron aelodau seneddol bron i ddeufis yn ôl, ac mae’r hyn mae Swydd Efrog a’r Arglwydd Patel wedi’i wneud i esgor ar newid yn sicr yn gam i’r cyfeiriad cywir.
“Os ydyn ni’n gofyn i sefydliad edrych arno fe ei hun, yna dylem gydnabod pan fo’n dechrau dangos ei fod yn wirioneddol flin ac yn ceisio dechrau gwneud yn iawn am bethau.
“Mae angen cefnogi Swydd Efrog a’u helpu nhw i symud i’r cyfeiriad cywir hwnnw.
“Y peth diwethaf dw i eisiau yw i blant yn Leeds, Bradford a thrwy’r sir yn cael eu hamddifadu o’r criced o safon uchel a allai eu hysbrydoli nhw.
“Yn hytrach na helpu i ddatrys y problemau yn y gamp, gallai gwaharddiad rhyngwladol Swydd Efrog ychwanegu atyn nhw yn y pen draw.
“Dw i ddim yn dweud bod popeth bellach yn iawn yn fy hen sir ac y gallwn ni i gyd symud ymlaen.
“Rhaid parhau i arolygu Swydd Efrog er mwyn sicrhau mai dechrau rhywbeth pwysig ac ystyrlon yw hyn go iawn.”