Sgoriodd Harry Wilson ddwywaith ac roedd yn rhan o bedair gôl arall wrth i Fulham daro saith yn erbyn Reading neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 11).

Dyma’r eildro i dîm Marco Silva sgorio saith y tymor hwn, ar ôl iddyn nhw chwalu Blackburn ym mis Tachwedd.

Y Cymro sgoriodd gôl gynta’r gêm ar ôl 13 munud, cyn i Alexander Mitrovic ddyblu mantais y tîm o Lundain ar drothwy hanner amser.

Doedd gan Reading ddim ateb i Fulham yn yr ail hanner wrth i Wilson, Kenny Tete, Neeskens Kebano, Tosin Adarabioyo a gôl arall gan Mitrovic sicrhau buddugoliaeth fawr.

Doedd yr ymwelwyr heb ennill mewn pum gêm gynghrair, er bod pedair o’r rheiny wedi bod yn gemau cyfartal, ac roedden nhw wedi llithro o frig y Bencampwriaeth i’r trydydd safle y tu ôl i Bournemouth a Blackburn.

Ond mae gobeithion Wilson a’i glwb o sicrhau dyrchafiad awtomatig i’r Uwch Gynghrair yn fyw ac yn iach o hyd yn dilyn y fuddugoliaeth wrth iddyn nhw godi i’r ail safle.

Harry Wilson yn cael tymor gwych

Mae Harry Wilson wedi bod ar dân ers iddo ymuno â Fulham fis Gorffennaf y llynedd.

Mae’r Cymro wedi sgorio naw gôl ac wedi creu naw arall mewn 22 gêm yn y Bencampwriaeth.

Fe yw ail brif sgoriwr ei glwb, tra nad oes neb wedi creu mwy o goliau i Fulham y tymor hwn.

Yn sicr, bydd Cymru angen iddo drosglwyddo ei berfformiadau gwych i Fulham i’w wlad pan fyddan nhw’n ceisio sicrhau lle yng Nghwpan y Byd drwy’r gemau ail gyfle.

Bydd Cymru yn herio Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fawrth 24, cyn wynebu naill ai’r Alban neu’r Wcráin gartref pe baen nhw’n ennill.