Mae Casnewydd wedi denu James Waite o Glwb Pêl-droed Penybont.

Mae Waite wedi cael cytundeb 18 mis, gan ei gadw yn Rodney Parade tan haf 2023, a bydd yn gwisgo’r rhif 26 i’w glwb newydd.

Mae’r gŵr 22 oed wedi cynrychioli Cymru ar lefel dan 19 a dan 21, gan chwarae tair gêm ar draws y ddau grŵp oedran.

Ar ôl cael cytundeb proffesiynol gyda Chaerdydd, treuliodd Waite amser ar fenthyg yn Henffordd, Weston-Super-Mare a Waterford cyn symud i Benybont yn 2021.

Mae e a Penybont wedi mwynhau tymor da eleni gyda’r clwb yn bedwerydd yng nghynghrair Cymru, ac mae’n amlwg yn gadael ar delerau da.

‘Opsiwn cyffrous’

“Dwi’n adnabod James ers pan oedd yn 13 oed a bues i’n gweithio gydag ef yng Nghaerdydd am wyth mlynedd,” meddai James Rowberry, rheolwr Casnewydd.

“Mae’n fachgen lleol sy’n gwybod beth mae’n ei olygu i chwarae i’n clwb ni.

“Bydd yn ychwanegu opsiwn cyffrous i’n hymosod.

“Rwy’n falch iawn o groesawu James i’n clwb.”

‘Uchelgais’

“Hoffai Clwb Pêl-droed Casnewydd ddiolch i Benybont am eu cymorth i hwyluso’r trosglwyddiad hwn fel y gallai James gael y cyfle a gynigir gan Gasnewydd i ddatblygu ei uchelgais i gael gyrfa lwyddiannus fel pêl-droediwr proffesiynol a gobeithiwn y gall y ddau glwb barhau â’u perthynas dda wrth symud ymlaen,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Croeso i Gasnewydd, James!”