Mae capten tîm rygbi merched Cymru yn dweud y bydd y cytundebau newydd yn “newid bywydau” y chwaraewyr.

Mae 12 o chwaraewyr wedi llofnodi cytundebau 12 mis gydag Undeb Rygbi Cymru fel mai nhw yw’r merched proffesiynol cyntaf erioed yng Nghymru.

Roedd disgwyl i ddeg chwaraewr gael cytundeb, ond mae Undeb Rygbi Cymru wedi enwi 12, sef Alisha Butchers, Natalia John, Siwan Lillicrap, Carys Phillips, Gwenllian Pyrs, Donna Rose o blith y blaenwyr, a Keira Bevan, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Ffion Lewis, Lisa Neumann ac Elinor Snowsill ymhlith yr olwyr.

Yn ôl Steve Phillips, Prif Weithredwr yr Undeb, mae’r achlysur yn “ddiwrnod balch iawn i ni fel corff llywodraethu” ar drothwy “blwyddyn brysur ond bythgofiadwy i rygbi merched.”

Bydd Cymru yn cystadlu yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn ddiweddarach eleni, ar ôl i’r gystadleuaeth gael ei gohirio o’r llynedd.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r gystadleuaeth honno gael ei chynnal yn hemisffer y de, a’r cyntaf heb y teitl ‘merched,’ gan fod Rygbi’r Byd eisiau cael gwared â dynodiadau rhywedd o’u cystadlaethau.

Ac wrth gwrs, dyma fydd y tro cyntaf i Gymru gael chwaraewyr proffesiynol yn eu plith.

‘Cyffro pur’

Dywed Siwan Lillicrap, capten tîm rygbi merched Cymru, fod troi’n broffesiynol am alluogi i rygbi merched Cymru dyfu ymhellach.

“Roedd cyffro llwyr wrth gyrraedd y bore yma,” meddai.

“Doedd neb wedi blino a neb yn bryderus – doedd yna ddim byd ond positifrwydd.

“Mae’r 12 ohonon ni yma nawr ac mae rhai merched eraill am ymuno ar gytundeb cadw rhan amser.

“Mae’n mynd i newid ein bywydau ni a rygbi merched yng Nghymru am y 12 mis nesaf a thu hwnt.

“Fel 12, rydyn ni wedi cyffroi’n fawr o ddod at ein gilydd heddiw a dangos beth mae’n golygu i ni fel carfan a hefyd beth mae e’n mynd i’w gyflawni i rygbi merched Cymru.”

‘Heb fod yn hawdd’

Mae Alisha Butchers, sy’n chwarae yn y rheng ôl, yn un sydd wedi llofnodi cytundeb llawn amser gyda’r Undeb.

“Dydy hi heb fod yn hawdd bod yn ferch yn chwarae,” meddai.

“Yn enwedig 15 mlynedd yn ôl, doedd dim cymaint o gyfleoedd ag sydd nawr.

“Dros y pump i chwe mlynedd diwethaf dw i wedi bod yn chwarae i Gymru, mae wedi bod yn uchelgais i allu rhoi popeth i mewn i’r [gamp], a rhoi 100% o fy amser iddo.

“Mae’n hynod gyffrous, a dw i’n edrych ymlaen at weld beth fydd y flwyddyn nesaf yn ei gynnig.”

‘Dim esgusodion’

Bydd carfan merched Cymru yn dechrau ar eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad yn hwyrach na’r arfer eleni.

Gêm gartref yn erbyn Ffrainc ar nos Wener, Ebrill 22 fydd yn eu hwynebu nhw gyntaf, wrth iddyn nhw geisio creu argraff ar y cae.

“Rydyn ni mewn amgylchedd hyfforddi’n amlach ac rydyn ni yn broffesiynol nawr,” meddai Siwan Lillicrap.

“Does dim esgusodion gyda ni fel chwaraewyr, felly, ond rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at y cyfle hwnnw.

“Y nod yw gwneud camau mawr ym mis Mawrth ac Ebrill, a gwella perfformiadau, a gobeithio y byddwn ni mewn lle gwell ar gyfer Cwpan y Byd.”

Cytundebau proffesiynol i ferched rygbi Cymru am y tro cyntaf

Daeth 12 o gytundebau blwyddyn i rym yr wythnos hon