Mae 12 o chwaraewyr wedi derbyn cytundebau blwyddyn wrth i gytundebau proffesiynol ddod i rym yng ngêm rygbi’r merched yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.

Roedd disgwyl i ddeg chwaraewr gael cytundeb, ond mae Undeb Rygbi Cymru wedi enwi 12, sef Alisha Butchers, Natalia John, Siwan Lillicrap, Carys Phillips, Gwenllian Pyrs, Donna Rose o blith y blaenwyr, a Keira Bevan, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Ffion Lewis, Lisa Neumann ac Elinor Snowsill ymhlith yr olwyr.

Yn ôl Steve Phillips, mae’r achlysur yn “ddiwrnod balch iawn i ni fel corff llywodraethu” ar drothwy “blwyddyn brysur ond bythgofiadwy i rygbi merched”, ac mae’n dweud y bydd y chwaraewyr sy’n derbyn cytundebau proffesiynol “yn elwa o’r ystod lawn o gefnogaeth arbenigol ar y cae ac oddi arno i’w helpu nhw i wireddu eu potensial”.

“Dechrau taith gyffrous yw hyn i fenywod a merched yng Nghymru,” meddai.

Yn ôl Nigel Walker, sydd wedi bod yn gyfrifol am y broses o gyflwyno’r cytundebau yn rhinwedd ei swydd yn Gyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, bydd y cytundebau’n galluogi’r chwaraewyr i ddod i gysylltiad wythnosol â’r prif hyfforddwr Ioan Cunningham, y tîm hyfforddi a’r staff meddygol.

“Bydd y cyfan hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i baratoadau, ffitrwydd a sgiliau’r chwaraewyr er mwyn ein galluogi ni i herio’r timau gorau yn y byd,” meddai.

“Roedden ni mor falch gyda safon perfformiadau’r chwaraewyr yn yr hydref fel bod cynnydd i 12 o chwaraewyr llawn amser wedi’i gytuno, ac roedd y tîm hyfforddi’n teimlo y byddai gweithio gyda’r 12 o chwaraewyr fydd yn asgwrn cefn y tîm yn gwneud gwahaniaeth mawr.

“Yn ymuno â’r chwaraewyr hyn fydd 15 o chwaraewyr ar gytundebau cadw dros yr wythnosau nesaf.”

Talent a gallu

Mae Ioan Cunningham wedi llongyfarch y chwaraewyr sydd wedi ennill cytundebau, gan ddweud bod y pwyslais ar dalent a gallu wrth ddewis pwy fyddai’n cael cytundeb llawn amser, yn ogystal â’r potensial i wella ynghyd â’u hagwedd.

“Roedd y sgyrsiau’n cynnig cytundebau’n rai braf i’w cael, hyd yn oed os oedden nhw’n aml yn eithaf emosiynol,” meddai.

“Roedd gan rai o’r chwaraewyr faterion logisteg i’w datrys o safbwynt personol a phroffesiynol, ond mae’n wych eu cael nhw yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol nawr wrth i ni ddechrau gosod y seiliau ar gyfer gwelliant.

“Rydyn ni wedi meithrin perthnasau gwaith agos gyda 15 o glybiau Allianz Premier y chwaraewyr, a dw i’n ffyddiog y bydd ein rhaglen yn profi’n fuddiol i bawb.”

Dywed y bu’n rhaid bod yn “glinigol” wrth ddewis y chwaraewyr fyddai’n derbyn cytundebau, a bod rhaid cael cydbwysedd rhwng blaenoriaethu’r Chwe Gwlad a Chwpan y Byd, a datblygu’r chwaraewyr gorau posib ar gyfer y dyfodol.

“Ar y cyfan, rydyn ni wedi mynd am y chwaraewyr roedden ni’n teimlo y bydden nhw’n gallu elwa fwyaf ar hyn o bryd, heb anghofio cyfraniad y chwaraewyr sy’n derbyn cytundebau cadw sydd hefyd yn rhan o’r rhaglen,” meddai.

Pwyso a mesur y chwaraewyr

“Mae’r propiau Gwenllian Pyrs a Donna Rose, ill dwy, yn cario’r bêl yn ddeinamig, mae Carys Phillips yn fachwr sy’n taflu sydd â doniau eithriadol, mae Natalia John yn gweithio’n galed dros ben ac yn un o’r perfformwyr oedd yn sefyll allan yn yr hydref,” meddai Ioan Cunningham wedyn.

“Mae gan bob un o’r chwaraewyr hyn yn y pump blaen gryn potensial a bydd eu cael nhw i mewn i raglen broffesiynol lawn amser yn gwneud gwahaniaeth enfawr o bersbectif cryfder a chyflyru, ynghyd ag ochr dechnegol eu gêm.

“Yn y rheng ôl, mae Siwan Lillicrap ac Alisha Butchers ill dwy yn chwaraewyr rygbi ardderchog ac yn arweinwyr gwych ar y cae.

“Mae gan Alisha sgiliau ffantastig, Siwan yw ein capten ac mae ganddi ddealltwriaeth anhygoel o’r gêm. Mae’r ddwy yn haeddu’r cyfle hwn i wella ymhellach yn gorfforol ac yn dechnegol.

“Roedden ni eisiau cynnwys dwy fewnwr lawn amser yn y grŵp ac yn teimlo y bydd Keira Bevan a Ffion Lewis yn codi’i gilydd ac yn herio’i gilydd o fewn yr amgylchfyd.

“Mae Keira yn siarp iawn, mae Ffion yn adnabod cyfleoedd i redeg ac rydyn ni eisiau datblygu’r ddwy i fod yn fewnwyr gorau’r byd.

“Mae Elinor Snowsill yn chwaraewr profiadol, yn deall y gêm yn wych, a bydd bod yn rhan o amgylchfyd llawn amser yn ei helpu hi i gael mwy o effaith yn y gêm yn gorfforol ac yn rhoi’r cyfle iddi wella sgiliau allweddol yn safle’r maswr.

“Mae Hannah Jones wrth ei bodd gydag ochr gorfforol rygbi ac yn arwain yn amddiffynnol o’r canol.

“Mae Lisa Neumann yn bwerus, yn rhedwr ymosodol ac mae doniau Jaz yn barod o safon fyd-eang gydag un o’r cyfraddau gorau yn rygbi’r byd.

“Ond mae cael y chwaraewyr hyn yn llawn amser yn rhoi’r cyfle iddyn nhw ddatblygu’r holl agweddau ar eu gêm a dod yn athletwyr a chwaraewyr rygbi gwell fyth.”