Mae Nicola Sturgeon wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored yn yr Alban yn cael eu diddymu’r wythnos nesaf.

Roedd nifer y cefnogwyr oedd yn cael mynychu gemau wedi eu cyfyngu i 500 yn dilyn pryderon diweddar am yr amrywiolyn Omicron a chynnydd mewn achosion Covid-19

Dywed Nicola Sturgeon fod yr Alban o bosib yn “dechrau troi cornel” wrth ystyried y data diweddaraf ar y feirws, ond mae hi wedi rhybuddio y bydd cyfyngiadau yn parhau i fod yn eu lle ar gyfer chwaraeon dan do, yn ogystal â’r mesurau ar y sector lletygarwch, am o leiaf wythnos arall.

Bydd modd i gefnogwyr pêl-droed a rygbi sy’n dymuno gwylio gemau, gan gynnwys Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ac Uwchgynghrair Pêl-droed yr Alban, wneud hynny felly o ddydd Llun.

A fydd Cymru yn dilyn?

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth yr Alban yn golygu mai Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig fydd â chyfyngiadau yn dal yn eu lle ar ddigwyddiadau chwaraeon proffesiynol yn yr awyr agored.

Gyda Phencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y gorwel, mae pwysau wedi bod ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i adael i gefnogwyr ddychwelyd i’r meysydd chwarae.

Yn sgil y cyfyngiadau, mae Undeb Rygbi Cymru wedi ystyried chwarae eu gemau cartref yn y gystadleuaeth yn Lloegr er mwyn sicrhau y gallan nhw chwarae gemau o flaen torfeydd llawn, gan leihau ar yr effeithiau ariannol fyddai’n deillio o chwarae gemau y tu ôl i ddrysau caëedig.

Mae cefnogwyr clybiau pêl-droed sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ond sy’n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr, gan gynnwys clwb pêl-droed Caer, hefyd wedi galw am lacio’r cyfyngiadau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu a diweddaru’r cyhoedd ynglŷn â’r cyfyngiadau wythnos nesaf, gan ei bod hi’n dair wythnos ers iddyn nhw wneud hynny ddiwethaf.

Wrth siarad yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 11), awgrymodd y Prif Weinidog y gallai rhai cyfyngiadau gael eu codi pe baen nhw’n gallu dweud i sicrwydd bod y wlad wedi mynd heibio brig yr amrywiolyn Omicron.